CYFLEOEDD CYHOEDDIADAU'R STAMP
Mae rhaglen gyhoeddi Cyhoeddiadau'r Stamp yn cynnwys cymysgedd o waith sydd wedi ei anfon atom yn ddigymell a gwaith sydd wedi ei ddatblygu wrth gydweithio â rhai o gyfrannwyr rheolaidd gwefan a chylchgrawn Y Stamp. Fel gwasg wirfoddol sy'n gweithredu ar gyllideb fechan, mae'n anorfod nad oes modd i ni wireddu pob prosiect yr hoffem ymgymryd ag o; ond mae ein pwyslais ar gyhoeddi gwaith newydd a gwreiddiol mewn ffurfiau a genres sydd, o bosib, heb ddewis amlwg fel arall o ran cyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg.
​
Rydym felly yn eich croesawu i gyflwyno eich syniadau, ac fe allwch wneud hynny trwy ein e-bostio.
​
Ar hyn o bryd, rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unigolion sydd â diddordeb datblygu syniadau am bamffledi:
Galwad agored: Pamffledi
Oes gennych chi syniad am BAMFFLED? Darn o waith sydd ddim cweit yn mynd lenwi llyfr, neu sydd heb lwyfan addas? Casgliad neu ddilyniant cysyniadol o gerddi? Cyfres o weithiau celf? Llond llaw o gerddi neu ysgrifau, zine neu stribed gomig, neu gywaith arbrofol gydag artist neu awdur arall? Beth bynnag eich gweledigaeth, rydym yn chwilio am weithiau gwreiddiol a chysyniadau cyffrous i'w hychwanegu i raglen gyhoeddi pamffledi Cyhoeddiadau'r Stamp. Os oes gennych ddiddordeb gweld eich gwaith mewn print, gyrrwch grynodeb (uchafswm 300 gair) a sampl byr o'r gwaith (dwy dudalen A4 neu gyfystyr) draw atom dros e-bost i agor y drafodaeth! cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
Adolygwyr
Rydym yn cynnig copiau am ddim o'n holl gyhoeddiadau i adolygwyr; ond nid i gylchgronau a rhaglenni 'sefydledig' yn unig. Os ydych yn blogio neu'n flogio am lenyddiaeth a llyfrau, yn rhedeg cyfrif Instagram adolygiadau, neu jest yn hoffi tweetio am ddarllen, rydym yn hapus i ddarparu nifer cyfyngedig o bob cyfrol a gyhoeddir gennym at y diben hwn. Felly os am lyfr am ddim i'w foli neu ei feirniadu'n hallt, cysylltwch â ni.