Gwasg fechan annibynnol yw Cyhoeddiadau'r Stamp, a redir ochr yn ochr â gwefan a chylchgrawn Y Stamp. Mae'n gweithredu ar sail yr un gwerthoedd â'r cylchgrawn, gyda'r gobaith o roi llwyfan i leisiau newydd ac ymylol, creu llwyfan agored i greadigrwydd o bob math, a bodoli'n annibynnol heb nawdd cyhoeddus.
Rydym yn ymfalchio nid yn unig mewn cyhoeddi print (a hynny am y tro cyntaf i gyfran helaeth o'r awduron, er bod lle hefyd i leisiau mwy sefydledig sy'n mentro i gyfeiriadau newydd), ond hefyd mewn trefnu ddigwyddiadau sy'n cynnig y cyfle i gyfrannwyr y cyfrolau drafod, dadansoddi a pherfformio eu gwaith - cyfle yr ystyriwn yn llawn mor bwysig â chyhoeddi'r gwaith hwnnw yn y lle cyntaf.
Mae cyfrolau barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp wedi ennill Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2020: Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn), a Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd (2020: Carthen Denau gan Rhys Iorwerth; 2019: moroedd/dŵr gan Morgan Owen).