Mae Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi gan Llio Elain Maddocks ar ei ffordd o'r wasg ac mi fyddwn ni'n dathlu gyda noson arbennig o farddoniaeth gan leinyp o feirdd anhygoel fydd yn ymuno â Llio i berfformio eu gwaith: Ciara Ní É, Elen Ifan, Jaffrin, Mari Elen a Taylor Edmonds.
Tiwniwch i fewn i instagram live Y Stamp (instagram.com/cylchgrawn_y_stamp) am 8PM, NOS IAU 27 MAI. Dyma ddigwyddiad fydd am ddim i bawb, gyda'r cyfle i wneud cyfraniad o'ch dewis at dâl y perfformwyr.
Fel rhagflas, dyma rannu cerdd arall o'r gyfrol - Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi, vol. 9, "Gwena, nei di?".
Cofiwch fod y pamffled hefyd ar gael i'w ragarchebu ar-lein o ystamp.cymru/cyhoeddiadau ac y bydd yn cyrraedd eich hoff siopau stampus yn yr wythnosau nesaf!
Commentaires