top of page

Maniffesto

Ein maniffesto sydd yn gosod cyfeiriad ein holl waith. Gosodwyd y gyfres wreiddiol o addunedau yn ôl yn Rhagfyr 2016, adeg sefydlu'r Stamp yn y lle cyntaf; ond nid rhestr statig, ddigyfnewid yw hon; yn hytrach rhywbeth fydd yn datblygu ac yn esblygu wrth i waith y Stamp a natur y byd y mae'r Stamp yn gweithredu o'i fewn yn newid. Dyma felly gyflwyno maniffesto diweddaraf Y Stamp, a ddiwyigwyd yn ystod haf 2020.

​

Mae colofn olygyddol Y Stamp: Rhifyn 10 - Haf 2020 yn trafod y maniffesto hwn a'r rhesymeg y tu ôl i'r diwygiadau yn fanwl.

​

Unrhyw sylwadau ar ein maniffesto? Cysylltwch

Maniffesto diwygiedig 2020

Bwriadwn roi llwyfan i AMRYWIAETH llenyddol a chelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu ac ehanguar ein canfyddiad o ystyr ‘amrywiaeth’. Byddwn yn barod i wynebu gwirioneddau anghyfforddus a rhoi clust i feirniadaeth sy’n anodd ei dderbyn; a defnyddio’r wybodaeth honno i dyfu a gwella hygyrchedd ein cyhoeddiadau i gyfranwyr a chynulleidfaoedd o bob cefndir.

1

2

Byddwn yn cynnal yr egwyddor o beidio derbyn nawdd cyhoeddus, gan gadw ein hannibyniaeth a’n gwrthrychedd yng nghyd-destun y byd celfyddydol Cymreig. Gweithredwn ar sail ewyllys da a chydweithio.

3

Cloddio yn ddyfnach am waith a anghofiwyd gan y status quo, gan dderbyn bod gennym ninnau fel golygyddionein rhagfarnau, a gwthio y tu hwnt i’r syniadau hynny. Sicrhau ein bod nid yn unig yn tynnu sylw at y gweithiau hyn,ond yn gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch i genhedlaeth newydd gael mynediad atynt.

4

Cofio nad oes yn rhaid wrth sêl bendith beirniaid cystadleuaeth, ac mai canran o bobl yn unig sy’n gyfforddus â’r syniad o ‘gystadlu’ â’u gwaith creadigol.

5

DATHLU pob math o Gymraeg, gan gadw’n driw i lais pob cyfrannwr, a golygu yn ysgafn a sensitif mewn proses sy’n gweithio’r ddwy ffordd. Bod yn agored ein meddyliau ynghylch yr hyn ydyw ‘cywirdeb iaith’, gan dderbyn mai rhywbeth hylifol yw iaith ac ni ddylid deddfu’n haearnaidd yn ei gylch.

6

Mentro, gyda DEWRDER, i ddweud ein dweud ac ymwrthod â hunan-sensoriaeth a MYNNU GONESTRWYDD mewn byd lle mae codi llais yn erbyn casineb yn parhau yn weithred radical. CYD-SEFYLL â grwpiau sydd yn profi anghyfiawnder yn eu herbyn a bod yn well EIRIOLWYR a CHYNGHREIRIAID i’r bobl hynny. Yn fwy na dim, GWRANDO.

7

Creu gwaith newydd a gwahanol gan HERIO ein hunain yn ogystal â’r darllenwyr. Dal i fwynhau. Dal i drio pethau newydd.

Ymunwch gyda ni. Cysylltwch. Cyfrannwch. Crëwch.

 

Y Tîm Golygyddol: Grug Muse, Esyllt Lewis, Iestyn Tyne a LlÅ·r Titus

Gorffennaf 2020

Maniffesto gwreiddiol 2016

Bwriadwn roi llwyfan i AMRYWIAETH llenyddol a chelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg – lleisiau amgen, lleisiau ifanc, lleisiau lleiafrifol, lleisiau o bob ban byd. Agor ffiniau a chwalu waliau.

1

2

Bwrw ati i GREU gwaith waeth pa amodau a’i RANNU gydag unrhyw adnoddau sydd ar gael i ni. Ewyllys yw ein ceffyl da.

3

Cloddio am waith a anghofiwyd gan y status quo. Amlygu bod MWY i lenyddiaeth Cymru na chaeau gwyrddion ac argyfyngau gwacter ysbryd. Mae mwy nag un fath o farddoniaeth – nid ydym am barhau gyda gwneud fetish o gerddi caeth – a dathlu rhyddiaith sy’n mentro tu hwnt i rigol realaeth.

4

Nid oes yn rhaid wrth sêl bendith beirniaid eisteddfodol – mae ymdrechu i greu darn o waith yn ddigon o wobr, heb fynd ar ofyn yr un cadair na choron. RHYDD i bob bardd neu lenor gystadlu, pe bai eisiau, ond pwysleisir nad oes rhaid.

5

DATHLU pob math o Gymraeg, boed yn enfys ieithyddol frith a thafodiaith neu’n gywir gywrain ac yn gyfoethog o eiriau mawrion.

6

Mentro, gyda DEWRDER, i ddweud ein dweud ac ymwrthod â hunan-sensoriaeth a MYNNU GONESTRWYDD mewn byd lle mae dweud y gwir wedi dod yn weithred radical.

7

Creu gwaith newydd a gwahanol gan HERIO ein hunain yn ogystal â’r darllenwyr.

Ymunwch gyda ni. Cysylltwch. Cyfrannwch. Crëwch.

 

Y Tîm Golygyddol: Grug Muse, Miriam Elin Jones, Iestyn Tyne a LlÅ·r Titus

Rhagfyr 2016

bottom of page