Dihuno yn yr ystafell wen
Sylweddolais yn rhy hwyr fy mod yn annioddefol o boeth;
ymbalfalais am fotymau siâp-blodyn fy nghardigan
broiderie Anglaise, wedi eu gweu mewn gwlân enfys
gan fy modryb. Pe medrwn ei datod a’i thynnu,
fyswn i’n ocê, meddyliais; ond teimlais yn wannach
gyda phob eiliad, ac nid oedd fy nghorff yn ymateb. Syllais ar
y glo ffug yn y tân nwy, gan ymbilio arno i beidio arllwys gwres,
ond parhaodd i fflamio, fflamio, fflamio ac yna ...
“Mae hi’n deffro - mae’n iawn cariad, ’da ni’n dy gymryd di
i’r ysbyty, dos di nôl i gysgu rŵan”. Ac felly mi wnes i,
yn ddiolchgar, gan mai dyma ro’n i’n dyheu am ei wneud.
Dihunaf yn araf, yn ymwybodol fod fy nghroen yn oer –
mor annioddefol o oer. Mae fy mraich yn las ac yn groen gŵydd,
ond ni fedraf symud, ddim hyd yn oed i dynnu’r
cynfas tenau drosof, i gynnig lloches gan –
beth oedd hynna, yn fy ngwneud i’n oerach fyth? Ffan?
Beth oedd y lle yma? Pam roeddwn i yma? A pham
roedden nhw’n fy ngwneud i mor, mor oer?
Symudaf fy mhen a gweld fy mod mewn ystafell wen,
llawn plant – i gyd yn gwisgo gwyn. Mae’r plentyn
i'r dde wedi ei amgylchynu â niwl gwyn, ac mae’n ei anadlu
fel pe bai’n gysur iddo. Ydw i wedi marw?
Ai’r nefoedd yw hyn? Mae fy nghof a fy meddyliau’n
glytwaith – mae pob dim mor ddryslyd.
Ond dyma ni gliw – ddynes yn sbïo lawr arnaf. Mae hi’n gwisgo
het ac iwnifform – mae hi’n edrych fel nyrs ac mae’n cadarnhau
fy mod yn yr ysbyty; rwyf wedi cael confylsiwn gwres.
Fysa hi’n medru diffodd y ffan? Wel, fysa’n rhaid trafod hynny
hefo’r meddyg – roeddwn i fod i gael fy nghadw’n ddi-dwym.
Aiff hi i ofyn, a gorweddaf innau nôl, ar fy ngwely gwyn,
yn yr ystafell wen sy’n llawn plant gwanllyd eraill.
-----
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Sara Louise Wheeler ei chasgliad cyntaf o gerddi, cyfrol ddigidol dan y teitl Rwdlan a Bwhwman. Gallwch lawrlwytho'r gyfrol i'w darllen trwy fynd i wefan Gwasg y Gororau a dilyn y cyfarwyddiadau: https://gwasgygororau.wordpress.com/. Mae hefyd yn Fardd y Mis BBC Radio Cymru ar hyn o bryd.
Comments