top of page

Cyhoeddiad: Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi - Llio Elain Maddocks

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • Mar 8, 2021
  • 1 min read


Mae'n fraint mawr gan griw Cyhoeddiadau'r Stamp gyflwyno Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi, y pamffled cyntaf o gerddi gan Llio Elain Maddocks (@llioelain ar instagram). Dyma gyfrol o ugain o insta-gerddi sydd, os nad ydych chi wedi llwyddo i ddyfalu hynny o'r teitl, yn ymateb i lot o stwff stiwpid ma hogia 'di ddeud wrth yr awdur dros y blynyddoedd. Dyluniwyd y clawr gan Erin Thomas, artist o Flaenau Ffestiniog, sydd hefyd wrthi'n creu darluniau o i gyd-fynd â cherddi Llio o fewn y pamffled. Gellir dod o hyd i'w gwaith ar instagram o dan @eerinart. Byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion dros y mis nesaf, ond am y tro, ac i godi eich gobeithion, dyma adolygiad o waith Llio gan un o hoelion wyth diwylliant Cymreig: 'Erchyll.' - Dei Tomos


Gallwch bellach ragarchebu Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi gan Llio Elain Maddocks o wefan Y Stamp, a thrwy hynny, gynorthwyo'r wasg yn y broses o gyhoeddi ac argraffu'r pamffled.

Comments


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page