top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Newyddion: Patriarchaeth - zine ffeministaidd â dyhead am newid


Mae’r Stampwyr yn falch iawn o gyhoeddi mai’r prosiect fydd yn derbyn arian o goffrau cylchgrawn Y Stamp eleni yw’r zine ffeministaidd Patriarchaeth.


Creodd y cais argraff ddofn arnom, gan ymgorffori llawer o’r gwerthoedd sy’n annwyl ac yn greiddiol i genhadaeth Y Stamp, a hynny mewn modd gwreiddiol a heriol fydd yn creu gofod o fath newydd yn y Gymraeg. Bydd y cyhoeddiad newydd hwn yn ‘sefyll mewn undod gyda phawb sy’n ymladd dros fyd gwell, ac wedi’i ymrwymo i gyd-gyfeirioldeb [intersectionality], trans-inclusivity, diddymiad [abolitionism] a gwrth-hiliaeth trwy flaenoriaethu gofal, tegwch a chyfiawnder ar y cyd.’


Tîm golygyddol Patriarchaeth yw Talulah Thomas, Heledd Owen, Macsen Brown a Gwenno Llwyd Till; y pedwar ohonynt ar hyn o bryd yn fyfyrwyr.


‘Ein gweledigaeth yw ein bod ni’n llwyddo i sicrhau and yw byd llenyddiaeth Gymraeg yn fyd cyfyng, a bod llwyfan ar gyfer trafodaethau angenrheidiol, blaengar a chyfoes drwy gyfrwng y Gymraeg heddiw’, meddai’r grŵp.


Bydd Patriarchaeth yn cymryd ffurf zine, gyda phob cyfrol yn canolbwyntio ar thema benodol, ac yn osgoi cyfyngu ar gynnwys mewn unrhyw fodd. ‘Hyderwn fod yna angen am ofod lle mae modd trafod materion heriol o safbwynt ffeministaidd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg’.


Gallwch ddilyn camau nesaf Patriarchaeth trwy ymweld a’u blog – patriarchaeth.wordpress.com – neu ddilyn cyfrif Instagram @patriarchaeth.

163 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentarios


bottom of page