top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Galwad Agored: Arian i sefydlu cyhoeddiad newydd


Ar ôl pedair blynedd o fod wrthi yn ddiwyd, chwerwfelys yw cyhoeddi mai rhifyn nesaf cylchgrawn Y Stamp, yr unfed ar ddeg, fydd yr olaf. Am y tro, beth bynnag. Mae ein diolch yn enfawr i bawb sydd wedi darllen a chefnogi; rhai ers y dechrau ac eraill wedi dod ar ein traws yn fwy diweddar – ac mi allwn ni addo y bydd Rhifyn 11 swmpus, deniadol ac amrywiol, yn ôl yr arfer, ar ei ffordd atoch yn fuan.


Tydi hyn ddim yn ddiwedd ar Y Stamp, chwaith; mae hi’n fwriad gennym barhau i gynnal digwyddiadau sy’n rhoi llwyfan i gyfoeth ac amrywiaeth y gwaith creadigol sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn ogystal â hynny, mi fydd Cyhoeddiadau’r Stamp, ein gwasg annibynnol sy’n cyhoeddi cyfrolau a phamffledi, yn parhau i gyhoeddi; ac mae gennym raglen lawn o lyfrau, pamffledi a zines ar ei ffordd yn ystod 2021.


Pan sefydlwyd Y Stamp gan y criw ar ddiwedd 2016, roeddem yn rhwystredig am y diffyg cyfleoedd ar gael i artistiaid ac awduron ifanc rannu eu gwaith – roedd cyhoeddiadau fel Y Neuadd a Tu Chwith, lle roedd y golygyddion gwreiddiol wedi cael y cyfle hwnnw, newydd ddod i ben; a doedd yna ddim byd fel petai o’n llenwi’r bwlch. Roeddem hefyd yn rhwystredig am ddiwydiant cyhoeddi oedd yn orddibynnol ar nawdd cyhoeddus, diffyg cynrychiolaeth ar lwyfannau digwyddiadau ac mewn cyhoeddiadau Cymraeg, a phobl oedd yn cael eu cau allan ar sail rhagfarn, ‘safon’, a chwaeth – ymysg pethau eraill! Bwrw ati o ddim wnaethon ni felly, gan ymrwymo i’r egwyddor o beidio derbyn nawdd, a dysgu wrth fynd.


Ein gobaith mawr ni fel tîm yw bod yna griw yn rhywle; criw digon tebyg i ni ar ddechrau taith Y Stamp, sy’n rhannu dyheadau tebyg ac â breuddwyd o sefydlu cyhoeddiad creadigol rheolaidd – boed yn gyfnodolyn blynyddol, yn wefan wythnosol, yn gylchgrawn rheolaidd; yn gyfuniad o’r rhain neu’n sbin hollol newydd ar y syniad.


Hoffem gynnig £300 sy'n weddill yng nghoffrau cylchgrawn Y Stamp i dîm sydd â gweledigaeth o greu cyhoeddiad newydd, amlddisgyblaethol, cyfrwng Cymraeg.


Gofynnwn felly i unrhyw un sydd â diddordeb anfon llythyr o ddiddordeb atom, gan roi manylion y prosiect arfaethedig a’u gweledigaeth ar ei gyfer. Rydym yn arbennig o awyddus i ymgeiswyr ystyried maniffesto cylchgrawn Y Stamp wrth feddwl am egwyddorion a gwerthoedd y cyhoeddiad newydd. Dylai fod yn gyhoeddiad sy’n fentrus, yn annibynnol o ran ysbryd ac yn gydweithredol ei natur. Hoffem hefyd weld prosiectau sy’n mentro ac yn dod o hyd i ffyrdd o fynd ati heb dderbyn nawdd cyhoeddus, fel wnaeth Y Stamp.


Rydym yn bwriadu dyfarnu’r arian i bâr neu grŵp, ond rydym hefyd yn annog unigolion i gysylltu â ni i drafod ymhellach os oes ganddynt ddiddordeb neilltuol. Gydag amrywiaeth yn hollbwysig i'r Stamp, hoffem hefyd annog yn benodol geisiadau gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol neu sydd yn cael eu tangynrychioli, boed hynny o ran cefndir diwyllianol ac ethnig, o ran rhywedd, cefndir, dosbarth neu abledd.


Anfonwch eich ceisiadau atom ar golygyddion.ystamp@gmail.com erbyn hanner nos ar ddydd Iau 31 Rhagfyr 2020. Byddwn yn dyfarnu yn fuan yn y flwyddyn newydd.


Noder: Rydym yn cadw'r hawl i beidio dyfarnu'r arian os na dderbynir ceisiadau neu os nad yw'r ceisiadau a dderbynnir yn cyd-fynd â'r gofynion a'r egwyddorion a nodir uchod.


ewch amdani, pob lwc, a chadwch yn saff


Grug, Iestyn ac Esyllt x


198 views0 comments

Comments


bottom of page