Mae National Theatre Wales yn cynnig deg bwrsariaeth o £5,000 yr un i artistiaid nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol sy’n gweithio ym maes theatr a pherfformio, i weithio’n ddychmygus tuag at ailadeiladu’r sector a’n cymunedau yn y tymor hir. Gwahoddir artistiaid Cymru i ddychmygu gyda NTW: Os byddai ganddyn nhw'r cyllid a'r gofod, sut bydden nhw'n adeiladu o'r foment hon o alar ac ansicrwydd ddyfodol sy'n fywiocach, yn fwy cynaliadwy a'n llawer mwy cydradd na'r hyn oedd gennym cyn y pandemig?
Am fanylion llawn y bwrsariaethau a ffurflenni cais, ewch i https://www.nationaltheatrewales.org/cy/opportunities/springboard/
Dyddiad cau: 5 EBRILL 2021
Comentarios