top of page

Cerdyn Post Creadigol : Berlin - Miriam Elin Jones

  • Miriam Elin Jones
  • Jan 1, 2017
  • 1 min read

'Aeth Aled fy nghariad a finnau ar wyliau byr i Berlin jyst cyn Nadolig, gyda'r bwriad o ymweld â marchnadoedd Nadolig niferus y ddinas. Ar ddiwedd ein diwrnod cyfan cyntaf yno, gyrrwyd lorri yn fwriadol i ganol un o'r marchnadoedd hynny, gan ladd deuddeg o bobol. Diolch byth, roeddwn ni'n dau yn ddigon pell oddi yno, ond cafodd effaith arnom wrth dreulio'r tridiau nesaf yn crwydro'r ddinas.

Wrth weld olion wal Berlin a gweld lle bu llywodraeth Hitler, roedd y digwyddiad hwnnw wedi dangos eto fyth y tensiynau gwleidyddol sy'n britho'r cyfnod diweddar hwn. Gwelwn bobol anaddas ac eithafol yn cyrraedd safleoedd o awdurdod ac mae pobol ddiniwed yn dioddef ar draul gweithredoedd terfysgol.

Lluniais dair cerdd yn ymateb i fy mhrofiadau yno - un a ysgrifennais cyn y digwyddiad, wrth weld palas hynafol yn cael ei ail-greu, a'r ddwy arall wedi'r drychineb; y cyntaf yn ymateb i weld yr Holocaust Memorial a'r ail yn diolch i ffawd (rwy'n gredwr mawr yn hwnnw) am fy ngalluogi i gyrraedd adref yn saff i ddathlu'r Nadolig.'

Lawrlwythwch y cerdyn post yma: cerdyn-post-creadigol-berlin

Os ydych yn cael eich hysbrydoli i 'sgrifennu a chreu ar wyliau, boed yn bytiau o ryddiaith, ffotograffiaeth, gelf weledol neu farddoniaeth, anfonwch gerdyn post atom! golygyddion.ystamp@gmail.com

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page