top of page
Y Stamp

Cerdyn Post Creadigol: Yr Arctig - Mari Huws


Mae criw Stamp HQ wrth eu boddau'n derbyn cardiau post creadigol o bedwar ban byd gan stampwyr crwydrol, ond weithiau fe ddaw un sy'n gwneud mwy na dod â darn bach o rywle arall i'n stepan drws - weithiau fe ddaw rhywbeth sy'n pigo'n cydwybod ac yn rhoi popeth mewn persbectif ...

Dyna'n union a gawsom ni gan Mari Huws, a fu ar daith yn ddiweddar i foroedd oer y Gogledd i weld â'i llygaid ei hun y difrod a'r llygredd sy'n cael ei achosi, hyd yn oed mewn mannau hollol anghysbell, gan y plastigion yr ydan ni'n eu taflu'n ddyddiol.

Gallwch ddarllen cerdyn post Mari trwy ddilyn y ddolen yma:

Fe fydd ffilm o waith Mari ar Hansh fis Awst - Arctig: Môr o blastig? yn deillio o'i phrofiadau yn Svalbard.

Fe fydd Y Stamp hefyd yn falch iawn o allu cyhoeddi 'O'r Môr', cyfres greadigol o waith Mari, yn y dyfodol agos. Yn y gyfres mae hi'n defnyddio gwrthrychau plastig cyffredin a gafwyd ar draethau, ac yn creu straeon a hanesion o'u cwmpas.

Yn y cyfamser, beth am fynd i ddarllen cerdyn post arall o waith Mari? Dyma chi beth oedd ganddi i'w ddweud o Indonesia y llynedd: Cerdyn Post Creadigol Mari Huws - Indonesia.

117 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page