Ail gyfrol o farddoniaeth Iestyn Tyne, ynghyd â brasluniau'r bardd. Gwaith celf y clawr gan Jack Ford.
"Barddoniaeth y bore wedyn ydi hon - cerddi meddylgary 'pnawniau Sul dibendraw' sy'n llawn difaru, distawrwydd a difrifoldeb ... Sylwa ar bobl, a dal eu cymeriad mewn ychydig eiriau, â'r un craffter llygad a chywreinrwydd llaw ag wrth eu braslunio." - Guto Dafydd, Llanw Llŷn
"Dro ar ôl tro cawn ein hunain yn y lle sydd ar yr ymylon, y darn sydd rhwng y darnau cyfarwydd. Ond o gael mynd yno yng nghwmni Iestyn Tyne agorir ein meddwl i weld posibiliadau gwahanol ... [mae'n] llwyddo i ddal y cyffredin mewn ymadrodd cwbl anghyffredin a chofiadwy." - Mererid Hopwood, Y Ffynnon
"Afraid dyfynnu, bron, gan mor niferus yw'r disgrifiadau byw a'r cymariaethau llachar ... mae'n eglur ei fod yn feistr ar lunio delweddau cofiadwy ... clymir yr holl waith ynghyd â chyfeiriadau cynnil yma a thraw at ymylon pethau: erchwyn gwely'n aml, min ar garreg ac ochr clogwyn, ynghyd â'r llinell symudol ddisymud rhwng y môr a'r tir ..." - Eurig Salisbury
top of page
£3.50Price
bottom of page




![Ar Adain - Iestyn Tyne [Llyfr Digidol]](https://static.wixstatic.com/media/f43d5e_a71015c822684de7ac05f1b363870093~mv2.jpg/v1/fill/w_455,h_680,al_c,q_80,enc_avif,quality_auto/f43d5e_a71015c822684de7ac05f1b363870093~mv2.jpg)