Mae dim eto yn casglu ynghyd ddarnau o waith celf gweledol sy’n wrthodedig gan yr artistiaid eu hunain – hynny yw, dyma gelf nad yw’r artistiaid yn hollol hapus gydag ef neu gelf na fydden nhw fel arfer yn dangos i’r cyhoedd.
Yn ogystal â’r pentwr o drysor gweledol sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, ceir rhagair craff gan Dylan Huw yn trafod y syniad o ‘gelf wrthodedig’.
Artistiaid y casgliad yw Elin Lisabeth, Rhys Aneurin, Lleucu Non, Jeno Davies, Cerys Scorey, Llinos Anwyl, Guto Morgan, Mary Lloyd Jones, Ruth Jên, Elfyn Lewis, Carlota Nobrega, Steffan Dafydd a Manon Dafydd.
dim eto - gol. Esyllt Lewis [Llyfr Digidol]
£1.50Price




![dim eto - gol. Esyllt Lewis [Llyfr Digidol]](https://static.wixstatic.com/media/f43d5e_2827c9143e0f43c6a939488c3c4b20d6~mv2.jpg/v1/fill/w_290,h_290,al_c,q_80,enc_avif,quality_auto/f43d5e_2827c9143e0f43c6a939488c3c4b20d6~mv2.jpg)