top of page

Llun a llên: Prifddinas - Efa Lois

  • Miriam Elin Jones
  • May 18, 2017
  • 1 min read

Mynwent o atgofion oedd y ddinas. Yng nghysgodion ei beddfeini, llochesai ambell awgrym fod gobaith wedi trigo yn y lle hwn rywdro. Credodd addewidion y cwmnïau mawr – mi fyddai hi’n arbennig. Mi fydden nhw’n ei gwareiddio hi, drwy wydr a dur, nes ei bod hi fel pobman arall.

Gwerthodd y ddinas hon ei hannibyniaeth a’i harwahanrwydd. Daeth hi’n adlais a gafodd ei ddal yn y cwm hwn. Mudodd ei gorffenol, a derbyniodd ei dyfodol yn ddi-sŵn. Collwyd cadarnle, ond cafwyd goleuadau i oleuo nos ei dyfodol hi.

__________________________________

Hyhi oedd ffrwyth y tir. Tyfodd o ganlyniad i’r cymoedd a’i bwydodd. Meithrinwyd hi, a blagurodd i fod yn un o brif borthladdoedd y byd. Mi ddaeth hi’n lle y byddai hanes yn cael ei greu ynddo, ond yn ddigon buan ei hanes oedd ei hanterth hi.

Collodd ei hetifeddiaeth i darw dur: plymiodd yn ddwfn i’w chrombil, a chafwyd cysgodion dau nengrafwr i ‘lenwi’r bwlch’. Sarnwyd.

Efa Lois


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page