top of page
Miriam Elin Jones

Rhestr Ddarllen: Deg Cyfrol gan Awduron Benywaidd - Mair Rees


Gwahoddwyd Dr Mair Rees, awdur y gyfrol Y Llawes Goch a’r Faneg Wen: Y Corff Benywaidd a’i Symbolaeth Mewn Ffuglen Gymraeg Gan Fenywod (Gwasg Prifysgol Cymru, 2014) i lunio rhestr ddarllen arbennig i ni'r wythnos hon. Gofynnwyd iddi awgrymu deg cyfrol - boed yn nofelau neu'n cyfrolau o straeon byrion - yn y Gymraeg gan lenorion benywaidd na ddylid eu hepgor. Dyma a gawsom yn rhestr ganddi:

Ar ôl digon o bendroni, dileu paragraffau, photsian ’da settings y peiriant coffi a gwirio fy nhudalen Facebook, dyma fy netholiad o 10 cyfrol, (8 nofel a 2 gasgliad o storïau byrion) Gymraeg gan awduron benywaidd ers diwedd y pumdegau. Byddai ffuantus a thrahaus i hawlio eu bod yn gyfrolau ffeministaidd drwyddi draw. Sut bynnag, mae’n bosibl dadlau fod pob un awdur wedi defnyddio’i dawn i wthio ffiniau gwleidyddiaeth rywedd yng Nghymru mewn un ffordd neu’i gilydd. Yn ddiau, mae hynny wedi cyfrannu at lacio’r strait-jacket brethyn cartre a fu o’n hamgylch, fel cenedl, am genedlaethau. Teimlaf yn euog iawn (y cyflwr benywaidd beunyddiol!) fy mod wedi gorfod hepgor nifer o awduron eraill a oedd yn llwyr haeddu bod ar y rhestr hon hefyd, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Angharad Jones, Caryl Lewis, Manon Steffan Ros, Mererid Hopwood, Marged Pritchard, Gwyneth Lewis, Sonia Edwards. Eigra Lewis Roberts, Eirwen Gwynn Ann Pierce Jones, Betty Hughes ac Irma Chilton. Wrth gwrs, mae rhai awduron gwrywaidd, (ystyriaf Mihangel Morgan yn esiampl ardderchog o hynny), wedi cyfrannu’n ddirfawr at herio ein canfyddiadau ynghylch rhywedd a rolau cymdeithasol hefyd.

Felly, ar ôl poeni drosto gyhyd, rwy’n awyddus i’ch annog i ddarllen fy netholiad, ond ar y cyfan, nid yw hynny’n mynd i fod yn beth rhwydd i chi ei wneud. Oherwydd sefyllfa’r Gymraeg fel iaith leiafrifol mae’r nifer o lyfrau sy’n ymddangos mewn unrhyw argraffiad yn isel, ac yn aml nid yw cyfrolau (hyd yn oed cyfrolau buddugol) yn cael eu hadargraffu. Er bod y cyfrolau ar ddechrau’r rhestr hon dal ar gael mewn llyfrgelloedd (rhai’r prifysgolion yn bennaf) ac mewn siopau ail-law (materol neu ar-lein), mae’r mwyafrif ohonynt allan o brint ers meityn.

Nid yw’n anodd hawlio bod ein hanes a thraddodiad llenyddol yn bwysig i ni fel cenedl, ond gellir dadlau ei fod yn bwysicach byth i awduron benywaidd sydd, tan yn ddiweddar iawn wedi cael eu hepgor o’r Canon Gymraeg. I’r awdur a’r darllenydd, peth anesmwythol yw bod heb wreiddiau. I’r gwrthwyneb, peth cadarnhaol yw medru olrhain traddodiad y grefft yn ôl, a chael gafael yn yr edafed sydd wedi gwau ffuglen Gymraeg gan fenyw ynghyd o un genhedlaeth i’r nesaf. Wrth ddod i ddeall y prosesau sy’n ategu’r hen batrymau, mae modd dysgu sut i’w haddasu er mwyn creu patrymau newydd gwefreiddiol ar gyfer y dyfodol.

Cyn dirwyn i ben, rhaid i mi longyfarch Gwasg Honno ar arwain y ffordd gyda’u cyfres Clasuron; iddyn nhw mae’r diolch am y ffaith fod y gyfrol gyntaf ar fy rhestr Mae’r Galon wrth y Llyw i’w chael ar y silffoedd unwaith eto. Byddai’n braf iawn gweld rhai o’r cyfrolau eraill yn ymddangos wrth ei hochr, (neu hyd yn oed ar gael ar ffurf electronig).

1. Mae'r Galon Wrth y Llyw – Kate Bosse-Griffiths (1957)

Dyma esiampl brin iawn yn y cyfnod cynnar hwn o awdur benywaidd yn defnyddio llwyfan y nofel mewn ffordd hunanymwybodol i drin a thrafod syniadau mawr ei hoes, yn bennaf – seicdreiddiad, athroniaeth, llenyddiaeth a ffeministiaeth. Y nofel arloesol hon oedd un o’r gyntaf i ymdrin â thestun erthylu. Yr oedd erthylu yn parhau i fod yn anghyfreithlon ym Mhrydain tan y ddeddf a gyflwynwyd o dan fesur Aelodau Preifat gan yr Aelod Seneddol ifanc David Steel yn 1967, ddeng mlynedd ar ôl dyddiad cyhoeddi Mae’r Galon wrth y Llyw. Gellid tybio fod gwyntyllu syniadau am y pwnc llosg hwn yn risg anferth i Gymraes barchus (un a ddaeth yn wreiddiol o dramor) yn y pumdegau ac yn gofyn am dipyn o ddewrder ar ran yr awdur ei hun.

2. Dechrau Gofidiau – Jane Edwards (1962)

Nofel gyntaf Jane Edwards hon. Mae’r gwaith trwyddo draw yn ymwneud â’r tensiynau cymdeithasol a oedd yn amlwg ar ddechrau’r chwedegau. Yma mae’r tyndra hwnnw wedi’i seilio hwn ar y gwrthdaro rhwng gwerthoedd ‘traddodiadol’ crefyddol yr aelwyd Gymraeg a moesau llacach a wreiddiodd yn y gymuned yn sgil y diwylliant Eingl-Americanaidd. Ar ôl degawdau o gael ei defnyddio fel trope rhybuddiol, mewn llenyddiaeth Gymraeg, o’r diwedd, dyma’r fenyw ifanc syrthiedig yn cael herfeiddiol ac ymwrthod yn herfeiddiol â mefl cywilydd.

3. Pruddiaith - Ennis Evans (1981)

Mae gan y fenywod a’r corff benywaidd swyddogaeth newydd ac arswydus yng nghasgliad o storïau byrion ygysgymarol a thameidiog Ennis Evans Pruddiaith (1981). Yn ddiau nid yw hon yn gyfrol gysurus i’w darllen, ond mae’n gyfrol o bwys oherwydd ei rôl yn herio nifer o ystrydebau a chonfensiynau sy’n gysyllteidig â benyweidd-dra. Yn groes i ystrydebau ynghylch chwaeroliaeth a thueddiadau di-drais mewnywod, yn aml, portreadir y cymeriadau benywaidd fel arteithiwr a gelynion yn hytrach na chwiorydd a chyfeillion. Mewn ffordd wyrdoedig, mae’r gyfrol yn chwa o awyr iach!

4. Cyn Daw'r Gaeaf – Meg Elis (1985)

Nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 1985 i Meg Elis yw Cyn Daw’r Gaeaf . Mae’r gyfrol yn bwysig am ei bod yn tynnu ar brofiad personol yr awdur o ymgyrch Comin Greenham â’i wreiddiau a chysylltiadau Cymreig. Mae holl strwythur ac arddull y gyfrol yn tanlinellu’r mantra ffeministaidd fod y personol yn wleidyddol. Gwelir ynddi hefyd gysylltiadau ehangach y tu hwnt i achos yr iaith â gwrthwynebiad i filwriaeth, ecoleg a chwaeroliaeth a oedd yn gyffredin yn ystod y cyfnod hwn.

5. Rhodd o Ferch - Grace Roberts (1988)

Beichiogrwydd yw thema ganolog y nofel Rhodd o Ferch (1988) gan Grace Roberts. Yma, yn debyg i Three Women (1962), drama radio/gerdd gan y llenor Americanaidd adnabyddus Sylvia Plath, cyferbynnir sefyllfa tair menyw, bob un ohonynt newydd roi genedigaeth i ferch fach. Er bod sefyllfaoedd y tair ohonynt yn wahanol iawn (un yn colli babi, un yn cael ei gorfodi i ildio ei babi a’r drydedd yn dioddef o iselder ôl-eni), mae’r broses o gael baban, yn creu cysylltiad rhyngddynt ac yn dihuno rhyw elfen wrthryfelgar ynddynt. Mae’r nofel yn archwilio’n sensitif y berthynas rhwng beichiogrwydd a chyd-destun cymdeithasol y fam, ond ar lefel amgen, mae’n awgrymu bod y profiad angerddol, creiddiol o gario baban a rhoi genedigaeth yn medru torri trwy’r rhagfur cymdeithasol sy’n cynnal grym patriarchiaeth.

6. Cysgodion – Manon Rhys (1993)

Yn y nofel Cysgodion mae Manon Rhys yn ymdrin â rhywioldeb benywaidd mewn ffordd gynnil a soffistigedig Mewn gwirionedd, nofel o fewn nofel yw Cysgodion sy’n sôn am y berthynas flinderus rhwng yr artist Gwen John a’r cymeriad Lois sy’n ymchwilio llyfr ar berthynas Gwen a’r cerflunydd Rodin. Mae thema anhwylder bwyta yn derbyn sylw estynedig ac amlhaenog ac mae’r thema honno’n grisgroesi rhwng y ddau gyfnod. Daw Lois, a’r darllenydd i wybod y cafodd creadigrwydd personol Gwen John ei chwalu wrth iddi ddod yn wrthrych edrychiad gwrywol Rodin. Mae testun yr ‘edrychiad gwrywol’ yn bwysig i theori celfyddyd ac esthetig ffeministaidd hyd heddiw ac yn anaml y ceir ei drafod mewn llenyddiaeth Gymraeg.

7. Titrwm– Angharad Tomos (1994)

Mae rhai, fel Kirsty Bohata, eisoes wedi sôn am y disgyrsiau sy’n cysylltu’r fenyw, ei chorff a’r genedl (ystyrier symbol Britannia e.e.). Er bod y delweddau treuliedig hyn yn aml yn aflesol i fenywod go iawn, gall y disgyrsiau gael eu hadfeddiannu mewn ffordd chwildoradol a rhyddhaol hefyd. Yr esiampl gliriaf o’r ffenomen hon ym maes Llenyddiaeth Gymraeg, efallai, yw cyfrol alegorïaidd Angharad Tomos Titrwm. Nofel fer, hudolus, delynegol ydyw sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng yr arwydd a’r arwyddwr, rhwng cenedl (gwlad) a chendl (rhywedd). Nid yw’n anodd gweld cyfochredd digamsyniol rhwng sefyllfa Awen, y prif gymeriad mud a fyddar a dreisiwyd gan Sais a beichiogi yn sgil hynny, a Chymru’r wlad. Ond er gwaethaf ei sefyllfa wresyniadd, wrth drosglwyddo chwedlau ei diwylliant i’r baban yn ei chroth, mae Awen yn cyflawni gweithred radicalaidd sy’n ei dyrchafu ymhell uwchben yr rhai sydd wedi gweithredu yn ei herbyn. Yn fy marn i, dyma un o’r nofelau pwysicaf yn y maes hwn.

8. Tania'r Tacsi – Angharad Price (1999)

Nofel ddinesig yw hon sy’n defnyddio rai o syniadau a dyfeisiau ôl-fodernaidd i herio rhith ‘realiti’. Nid yw wedi derbyn fawr o sylw o’i chymharu â O Tyn y Gorchudd ond mae’n gyfrol hynod ddiddorol ac arloesol. Yn gyffredin â Cysgodion, mae’n defnyddio anhwylder bwyta fel thema, ac mae’r prif gymeriad, Tania (sy’n cyflawni swydd draddodiadol wrywaidd) yn cyfogi’n rheolaidd drwy gydol y gyfrol. Ceir awgrymiadau pryfoclyd bod Angharad Price yn defnyddio’r cyfogi hwnnw i ddynodi Tania yn ymwrthod â phatriarchaeth a Seisnigrwydd. Yn fras, mae’r nofel fer hon yn ymwnued â delweddau gwneuthuredig o’r genedl a phryder bod ystrydebau’r diwylliant twristiaeth yn disodli profiadau beunyddiol o fyw yn y byd fel Cymry. Yn hynny o beth, mae’n bosibl efallai darllen Tania’r Tacsi fel nofel sy’n creu paralel rhwng y cyrchu am yr hunanddelwedd ddiwylliannol afreal honno a phrosesau gwrthnysig anorecsia.

9. Saith Oes Efa - Lleucu Roberts (2014)

Dyma gyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Llanelli 2014. Cyfres o storïau byrion ydyw sy’n archwilio gwahanol gyfnodau ym mywydau saith menyw. Mae’r naratif yn symud yn gronolegol ac yn ddaearyddol. Does dim syndod bod drygioni a throsedd yn themau cyson, gan ystyried y teitl a’i gyfeiriad at y pechod gwreiddiol. Mae’r gyfrol yn chwalu nifer o ragdybion ynghylch rolau menywod ac yn sylwebi ar ragrith ni y Cymry. Un o gryfderau’r gyfrol yw ei hiwmor chwerw-felys sy’n atseinio’r ffordd y mae hiwmor yn gyffredinol wedi cael ei ddefnyddio gan fenywod i herio a gwrthsefyll gormes patriarchaeth dros amser.

10. Rhyd y Gro – Sian Northey (2016)

Mewn ffordd mae Rhyd y Gro yn wrth bwynt i lawer o’r gweithiau eraill. Nid yw’n ceisio hyrwyddo unrhyw agenda ffeministiaeth mewn modd amlwg. Wedi dweud hynny, tan yn ddiweddar iawn, aderyn prin oedd y prif gymeriadau gwrywaidd mewn ffuglen Gymraeg gan fenywod, (er bod ffuglen o’r fath yn gallu cyfrannu at y broses o ehangu’r disgyrisau sy’n bodoli ynghylch gwrywdod a rhywedd yn gyffredinol). Yn Rhyd-y-Gro, mae’r ddyfais grefftus o ddefnyddio lleisiau dau brif gymeriad, un gwrywaidd (y tad) a’r llall yn fenywaidd (y ferch) yn y person cyntaf, yn priodoli’r naratif â phersbectif lluosog, bratiog ac anghyffredin o anghyflawn a chredadwy. Yn y bôn mae’r nofel yn cwestiynu’r storïau yr ydym i gyd yn eu hadrodd i’n hunain er mwyn creu darlun taclus o’r byd a’n lle ynddo. Ond mae’r storïau hynny’n lledu, yn glynu yn ei gilydd ac yn ymgarregu i ffurfio disgyrsiau cymdeithasol sy’n ein diffinio ... a’n carcharu. Wrth ddatgelu’r prosesau a thueddiadau hynny, gellir honni bod gyfrol yn gwneud cymwynas â ffeministiaeth yng Nghymru heddiw.

Mair Rees

48 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page