top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Rhestr Ddarllen: Darllen yr Argyfwng Hinsawdd - Aelodau XR Cymru

A hithau'n Fis Bach Gwyrdd ar wefan Y Stamp, dyma ofyn i rai o aelodau XR Cymru am eu hawgrymiadau o lyfrau i'n helpu i 'ddarllen yr argyfwng hinsawdd'.

1. Y Dŵr – Lloyd Jones, 2009 (Y Lolfa)

Mae symbolaeth dŵr yn chwedloniaeth a hanes Cymru yn un amlwg o bwerus. O chwedl Cantre’r Gwaelod at hanes Tryweryn, Efyrnwy a Llangyndeyrn; o wleidyddiaeth sydd yn ffocysu fwyfwy ar sut allwn ni ddefnyddio adnoddau naturiol ein gwlad i’r ymchwil diweddar sydd yn dangos bygythiadau newid hinsawdd a lefelau môr uwch i gymunedau a thirwedd arfordirol, gan gynnwys ein prifddinas. Mae nofel afaelgar Y Dŵr yn crisialu hanes a chwedloniaeth Cymreig am ddŵr a’r bygythiad real y gall newid yn yr hinsawdd ei gael ar gymunedau Cymru. Nofel am fferm Dolfrwynog a’i theulu sydd yma, teulu sy’n cynnwys y ffarmwr Yncl Wil, y fam Elin (sydd mewn stasis o iselder ers i’r byd droi yn llwm o ganlyniad i drychineb newid hinsawdd) ei phlant Mari a Huw ac o fewn tro, Nico, sydd yn cyrraedd y fferm o Wlad Pwyl. Mae’r fferm wedi ei lleoli erbyn hyn ar lan llyn anferth, ers i rannau helaeth o’r Gymru ddychmygol hon gael eu boddi dan donnau’r môr. Mae’n nofel dorcalonnus, wrth i amodau byw a ffermio gael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd, ac wrth i gnwd ac anifeiliaid prin y fferm araf farw. Nid tirwedd a bywyd yn unig a gollir, ond hanes a diwylliant, wrth i hen storïau a hanes yr ardal fynd yn angof. Mae’n nofel ddystopaidd sydd hefyd yn cynnwys darlun sinistr o sut mae rhai pobol yn adweithio i’r newid yn yr hinsawdd, ac am fanteisio ar bobl llai pwerus na nhw – nid yn annhebyg i’r llwythi yn ffilmiau Mad Max, ond gyda lot, lot mwy o ddŵr. Mae’n nofel frawychus, ond efallai taw bach o fraw sydd ei angen arnom ni i amgyffred difrifoldeb y sefyllfa sy’n ein hwynebu, ac i uno er mwyn ei lliniaru.

Sioned Haf, Ynni Sir Gâr

2. No One is Too Small to Make a Difference – Greta Thunberg, 2019 (Penguin)

Os nad oes amser nac arian gyda chi, dyma'r llyfr i brynu! 68 Tudalen. 11 araith. Dim ond £2.99, ac yn llawn gwybodaeth a dadleuon synhwyrol mae eisiau i bawb ystyried. Mae popeth yn ‘ddu a gwyn’ wrth i’r awdur siarad â Gwrthryfel Difodiant (XR) yn Llundain. Rhaid i Fforwm Economaidd y Byd werthfawrogi bod ein ‘tŷ ar dan’, meddai, wrth siarad yn Davos – ac mae angen elfen o banig. Mae hi'n cydnabod ei bod hi ac eraill yn ‘rhy ifanc i wneud hyn’ wrth siarad yn Stockholm, ond yn nodi ym Mrwsel bod oedolion ‘yn ymddwyn fel plant anghyfrifol’. Yn amlwg, mae hi'n dadlau yn glir bod modd i bawb wneud gwahaniaeth a bod eisiau i bawb wneud gwahaniaeth. Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan mae hi'n cloi trwy ofyn a ydy pobl ‘yn gallu fy nghlywed i? Ydy'r meic yn gweithio?’ Fel rhywun prysur, mae'r llyfr yma yn gweithio i mi ac os oes awr fach gyda chi, prynwch, darllenwch, mwynhewch a gwnewch rywbeth, nawr.

Steffan Webb

3. Tic-Toc: Nofel Graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned – Sioned Haf ac Angharad Penrhyn Jones, 2017

Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd global, mae’n anodd weithiau amgyffred beth allwn ni ei wneud ar lefel fwy lleol. Ar wahân i’r newidiadau y gallwn eu gwneud ar lefel unigol i fod yn fwy meddylgar a chydwybodol ynglŷn â’n harferion byw a bod, mae’n gallu bod yn rhwystredig gwybod ble a sut i gyfrannu tuag at newid mwy systemig yn ein cymunedau lleol. Gall y sector ynni adnewyddadwy cymunedol, ble mae cymunedau yn datblygu a pherchnogi prosiectau hydro, gwynt, solar a cheir trydan, er enghraifft, fod yn ateb i’r penbleth hwn. Erbyn hyn, mae yna nifer fawr o brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol yn bodoli yng Nghymru. Nid yn unig maent yn mynd i’r afael â lliniaru effeithiau newid hinsawdd trwy gyflenwi ynni gwyrdd, ond, trwy sicrhau fod buddion yn aros yn lleol, maent hefyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd, cymunedol a diwylliannol cymunedau. Er gwaetha’r buddion amlwg all ddod o’r sector ynni cymunedol, mae yna anwybodaeth gyffredinol amdani a’i photensial yng Nghymru. Mae’r nofel graffig Tic-Toc (sydd hefyd yn cynnwys adnoddau dysgu os yn cael ei ddefnyddio o fewn ysgolion, ac ar gael yn ddwyieithog), yn llenwi’r bwlch. Mae’r stori, sydd yn cynnwys darluniau syml ond effeithiol, a deialog naturiol drwyddi draw, yn dilyn taith y prif gymeriad, Gwen, wrth iddi gwestiynu'r sector ynni (mae’n byw mewn pentref ôl-lofaol) a gwneud cysylltiadau rhwng yr hen ffyrdd o greu ynni, a sut mae’n bosib i gymuned gydweithio a buddsoddi yn nyfodol ynni glanach a thecach yn eu ardal nhw. Mae cyfrwng y nofel graffig yn un gwych, sydd yn gwneud y stori yn un syml a hwylus iawn i blant, pobol ifanc ac oedolion ei darllen.

Beca Roberts, Ynni Cymunedol Cymru

4. This is Not a Drill – an Extinction Rebellion Handbook, 2019 (Penguin)

Mae Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf ac wrth i’r boblogaeth ddechrau cymryd yr Argyfwng Hinsawdd o ddifri o’r diwedd, mae gan y mudiad aelodau ym mhob rhan o’r byd. Os ydych chithau’n chwilfrydig am gymhelliant a dulliau’r mudiad, dyma’r llyfr i chi.

Ymateb nifer o gyfranwyr gwahanol i ddirywiad ein hamgylchedd sydd yn This Is Not a Drill, a phob un o gefndir gwahanol. Ceir penodau gan y rheiny sydd ar reng flaen yr Argyfwng Hinsawdd – ffermwyr yr Himalayas, aelod o gymuned frodorol Chad a diffoddwr tân o Galiffornia yn ogystal a gwyddonwyr, gwleidyddion ac economegwyr. O’u clywed yn rhannu eu barn, eu profiadau a’u harbenigedd, cewch ddarlun cyflawn o beth allai’r Argyfwng Hinsawdd olygu i’n dyfodol ni a’r genhedlaeth nesaf.

Yn ogystal â phenodau megis ‘Survival of the Richest’, ‘A Green New Deal’ a ‘The Heat is Melting the Mountains’ mae’r llyfr yn dangos sut mae mynd ati’n ymarferol, trwy brotest, i fynnu bod ein hawdurdodau yn gweithredu i daclo’r broblem. Darllenwch am sut i greu cegin symudol i fwydo ‘gwrthryfelwyr’ ar y strydoedd, creu digwyddiad lliwgar a deniadol i ddenu sylw’r cyfryngau, a hyd yn oed sut i ddelio gyda bod mewn cell dros nos. Mae’r rhain oll yn cael eu hesbonio yng nghyd-destun anufudd-dod sifil ac effeithiolrwydd a llwyddiant hanesyddol y dull hwn mewn achosion fel mudiad hawliad sifil America a mudiad annibyniaeth India.

Dyma lyfr sy’n mynd â chi i drwy bob emosiwn, o ddicter i obaith; ac un sydd heb os yn eich ysbrydoli ac yn rhoi tân yn eich bol i weithredu.

Gwenni Jenkins-Jones

5. How Bad are Bananas? – Mike Berners-Lee, 2010 (Profile Books)

Os ’dych chi erioed wedi oedi mewn tai bach cyhoeddus i bendroni dros y peiriant sychu dwylo a’r tywelion papur, dyma’r llyfr i chi. Trwy roi cost garbon i bopeth, o’r negeseuon sy’n costio 0.014 gram i’r tanau gwyllt yn Awstralia sy’n rhyddhau miliynau o dunelli o CO2, mae Mike Berners-Lee yn cyflawni dau orchwyl. Mae’n rhoi modd i ni ofalu am ‘y pethau bychain’, ond hefyd yn rhoi’r pethau bychain yna mewn persbectif.

Rydyn ni i gyd (gobeithio) yn gwybod erbyn hyn beth yw’r pethau pwysicaf i’w gwneud os ydym am leihau ein holion traed carbon: hedfan llai, inswleiddio ein tai, dewis darparwr ynni carbon isel, bwyta llai o gig ac ati, ond faint o les sydd mewn newid ein brwsh dannedd?

Yn eironig ddigon, y prif effaith gafodd y llyfr yma arna i oedd fy narbwyllo bod gwell pethau i fi eu gwneud na phendroni’n rhy hir am fy ôl troed carbon personol. Oni fyddai’n well rhoi fy amser a’m hegni at bethau fel agor mwy o sgyrsiau am yr argyfwng hinsawdd a dod yn rhan o fudiad fel XR sy’n ceisio gwthio’n llywodraethau, a llywodraethau’r byd, i weithredu ar raddfa fyd-eang er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng a allai arwain at ddifodiant? Mae gwneud y pethau bychain yn angenrheidiol, ond dyw e ddim yn ddigonol.

Nic Dafis

6. Wilding Isabella Tree, 2018 (Picador)

Dyma lyfr i godi’r galon. Yng nghanol yr holl newyddion drwg am gyflwr byd natur a’r bygythiadau mae’n ei wynebu, mae profiad Isabella Tree yn cynnig rhywfaint o obaith a chysur – cysur bod gan fyd natur y gallu i fownsio ’nôl os rhown y cyfle a’r lle iddo. Llyfr am brofiad Isabella Tree a’i gŵr, Charlie, o ‘ail-wylltio’ stâd Knepp yng Ngorllewin Sussex yw’r llyfr, ac mae’r cyfan wedi’i sgwennu mewn arddull hawdd ei ddarllen a’i ddeall. Mae’n crynhoi’r daith wnaeth arwain Knepp o gael ei ffermio’n ddwys (a chaledi a cholledion ariannol y cyfnod hwnnw) i’w ‘ail-wylltio’ graddol i greu ystâd a busnes proffidiol. Yn goron ar y cyfan mae’r hanes am fyd natur yn adfer ei hun – o atgyfodi hen gynefinoedd i’r cynnydd trawiadol yn niferoedd bywyd gwyllt; o gynnal iechyd y pridd i reoli llifogydd lleol. Nid ‘ail-wylltio’ yw YR ATEB i achub y byd – nid yw’n addas ar gyfer bob man ac, wrth gwrs, mae’n rhaid wrth ffermio a systemau amaeth i fwydo pobl – ond mae’n rhaid iddo fod yn rhan o’r ateb. Does bosib bod gan bob un ohonom, nid tirfeddianwyr a ffermwyr yn unig, gyfrifoldeb i ‘ail-wylltio’ rhywfaint ar ein bywydau?

Daniel Jenkins-Jones

7. Doughnut Economics – Kate Raworth, 2017

Mae’n amhosibl edrych ar yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol heb gydnabod cyfaniad ein system economaidd, a’i angen gynhenid am dwf di-derfyn, at y dinistr o’n cwmpas.

Yr her fu gallu cynnig gweledigaeth amgen, a dyma’n union a geir gyda gwaith Kate Raworth, sy’n hallt yn ei beirniadaeth o orddibyniaeth theori economaidd y 70 mlynedd diwethaf ar Gynnyrch Gwladol Crynswth (GDP) i fesur llwyddiant a chynnydd, a hwnnw’n cyfleu cyn lleied am les pobl ar lawr gwlad. Yng ngeiriau Raworth, ‘heddiw mae gennym economïau sydd angen tyfu, p'un a ydynt yn gwneud inni ffynnu ai peidio. Yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw economïau sy'n gwneud inni ffynnu, p'un a ydynt yn tyfu ai peidio’.

A dyma lle y daw’r enwog ‘doesen’ i’r adwy: diagram lle efo’r cylch allanol yn cynrychioli’r to ecolegol: ffin na ddylem ei chroesi os am osgoi diraddio’r amgylchfyd, a chylch mewnol i gynrychioli sylfaen gymdeithasol – anghenion sylfaenol pobl sydd angen eu bodloni. Rhaid ail gynllunio’n heconomi i sicrhau fod holl weithgareddau dynol yn bodoli tu fewn i ffiniau’r doesen: ‘y gofod diogel a chyfiawn i ddynoliaeth’.

Felly os am fyd tecach, sy’n gadael lle i fyd natur, rhaid cynllunio’n bwrpasol ar gyfer hynny. Mae’r llyfr yn cynnig 7 ffordd newydd o feddwl sy’n ein llywio tua'r nod hwnnw. Yn ôl Raworth, yr unig beth ym myd natur sy’n tyfu’n ddi-bendraw ydy cancr, ac mae dylanwad cylchredoedd naturiol bywyd a byd natur yn gryf yn ei syniadau; megis cynllunio dosbarthol ac atgynhyrchiol (regenerative & distributive design).

Mae hwn yn llyfr cyffrous, blaengar, sydd wedi bod yn creu cynnwrf dros y byd. Darllen hanfodol i'r rhai sydd am fynd ati i wthio am newid strwythurol o bwys.

Siân Stephen

-----

Dymuna'r Stamp ddiolch i'r holl gyfranwyr, ond yn arbennig i Gwenni Jenkins-Jones am ei gwaith yn cydlynu'r rhestr ddarllen hon.

4 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page