top of page
Y Stamp

Rhestr Ddarllen: Pump o Insta-feirdd - Iestyn Tyne

Ydy’r enwau Rupi Kaur, Atticus a Cleo Wade yn golygu unrhyw beth i chi? Mae’n bosib iawn mai dyma enwau rhai o feirdd mwyaf poblogaidd y byd ar hyn o bryd, os nad erioed. Cyfrol gyntaf Kaur o gerddi, milk & honey yw’r gyfrol o farddoniaeth gyda’r gwerthiant uchaf yn hanes y byd – 3.5 miliwn o gopïau, ac mae’n parhau i godi. Mae’r nifer mor fawr nes ei fod yn anodd ei amgyffred.

Rupi Kaur. Llun Joe Carlson, Wikimedia Commons

Kaur yw’r ffigwr mwyaf blaenllaw ym mudiad newydd yr insta-feirdd, ffenomenau sydd yn profi llwyddiant ysgubol â’u cerddi byrion a gyhoeddir ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn benodol ar blatfform instagram. Dyma griw sydd yn nabod eu cynulleidfa ac yn gwybod beth sy’n plesio; criw sydd yn bobl fusnes craff ac yn llwyddo i sicrhau fod eu barddoniaeth yn llwyddiant masnachol.

Mae hyn yn codi trafodaethau difyr; rhai yn adeiladol ac eraill heb fod felly. Byddai’r beirniad llenyddol llym, o gyfosod cerddi Atticus â’i safonau a’i feini prawf ei hun, yn eu wfftio fel pytiau tila ac anfarddonol sy’n gyforiog o ystrydebau; ond byddai un o ddilynwyr Atticus ei hun yn dweud mai dyma’r tro cyntaf iddynt deimlo fod bardd yn siarad â nhw - yn mynegi eu hemosiynau mewn ychydig o eiriau a hynny trwy gyfleustra cyfrwng gweledol deniadol fel instagram. Mae’n bosib fod y gwirionedd, fel y mae mor aml, yn disgyn yn y tir neb rhwng dau begwn barn.

Beth bynnag eich barn - boed yn rholiwr llygaid neu’n ddilynwr brwd - yr hyn sy’n sicr yw bod yma gyfrwng newydd eto fyth sydd yn cynnig rhywbeth amgenach i’r crëwr na’r gair du ar bapur gwyn. Mae’r rhyddid i gyflwyno gwaith mewn modd gweledol, a chreu rhywbeth sydd efallai yn fwy brau a byrhoedlog na’r copi print - yn cynnig yr ymateb sydyn dros yr argraff arhosol - yn apelio at lawer, ac yn gyflwyniad i ddarllen barddoniaeth yn ehangach.

Mae yna griw o feirdd sy’n sgrifennu yn y Gymraeg sydd yn dewis instagram fel cyfrwng i’w barddoniaeth. Maent yn amrywio’n fawr o ran y ffurfiau, y themâu a’r arddulliau a ddewisir ganddynt, yn ogystal â’r modd y maent yn mynd ati i gyflwyno chwistrelliad o’r gweledol i’w gwaith. Dyma gasglu rhestr o rai ohonynt ynghyd, gan obeithio y cewch chi flas ar yr insta-seigiau blasus a geir ganddynt. Dylid nodi mai fy mwriad yma yw cyflwyno’r beirdd hynny sy’n cyhoeddi cerddi ar ffurfiau sydd rhywsut yn unigryw i blatfform instagram a’r hyn a gynigir ganddo, yn hytrach na rhai sy’n defnyddio’r cyfrwng i rannu eu cerddi yn fwy cyffredinol.

-----

@daidafod

Myfyrdodau ar ffurf rhigymau neu hen benillion dwyieithog – ac weithiau, rhai sy’n cyfuno Cymraeg a Saesneg o fewn yr un gerdd – a geir gan @daidafod ar ei gyfrif. Mae'n eu cyflwyno yn ddwyieithog yn nhestun y cofnod, gyda’r llun uwchben yn cyd-fynd â rhyw agwedd ar y geiriau. Cerddi rhythmig ar fesurau cofiadwy yw’r rhain, gyda’r themâu yn amrywio o lên gwerin i’r tywydd, ac o fyd natur i fewnsyllu.

@hywelgriffiths1983

Gobaith @hywelgriffiths1983 yn ystod 2019 yw creu cyfres o englynion sydd ‘wedi eu hysbrydoli gan ymchwil, straeon, darganfyddiadau neu syniadau gwyddonol yr wyf yn dod ar eu traws’. Cyhoeddir y rhain ar ei gyfrif wedi eu gosod dros ddelweddau sy’n adlewyrchu’r hyn a fynegir yn ei gerdd.  Dilynwch yr hashnod #englyniongwyddonol

@morwenjones

Mae @morwenjones yn defnyddio ei chyfrif instagram i rannu haiga yn Gymraeg a Saesneg. Mae mesur yr haiku yn ei gynnig ei hun yn naturiol ar gyfer y myfyrdodau tyner hyn ar natur yr eiliadau lleiaf yn rhod y tymhorau. Mae hi’n clywed ‘arogl ddoe / trwy ffroenau heddiw / sawr chwerwfelys gwymon' ac un bore hi yw ‘y cyntaf ar y traeth / cyfarfod fy hun / ar y ffordd yn ôl’. Mae’n gosod ei geiriau dros luniau sy’n cyfannu'r ddelwedd a gyflëir, yn hytrach na’i hategu. Dilynwch yr hashnod #pethaufelhyn

@rhystrimble

Defnyddia @rhystrimble gyfresi o ddelweddau i greu cerddi collage trawiadol sy’n llenwi ei ffrwd instagram. Yn ddiweddar, bu’n defnyddio llawer ar sganiwr sy’n ei alluogi i gynnwys ei hun o fewn y cerddi gweledol hyn. Dyma un o’r beirdd mwyaf arbrofol sy’n cyhoeddi cerddi Cymraeg ar y we. Dilynwch yr hashnod #scannerart

@geiriaugwain

Yn debyg iawn i rai o’r insta-feirdd mwyaf enwog, cyhoeddir mwyafrif cerddi dwyieithog @geiriaugwain ar gefndiroedd plaen mewn ffont ddeniadol, unffurf, sy’n ymdebygu i ffont teipiadur. Difyr yw’r ffaith fod y cerddi Saesneg ar y cyfrif yn tueddu i drafod themâu mwy cyfoes neu dywyll, tra bod nifer o’r rhai Cymraeg yn fwy traddodiadol neu delynegol eu naws.



193 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page