top of page
Y Stamp

Pigion Eisteddfodol: Y Lle Celf - Sara Alis

Bu celf yn bwnc agos iawn at fy nghalon i ers blynyddoedd, ond a minnau bellach yn astudio Athroniaeth a Chrefydd yng Nghaerdydd, bu’n rhaid i mi flaenoriaethu f’amser a gofidiaf i mi golli gafael ar y pwnc lliwgar hwnnw. Ond o gael y cyfle i weithio fel tywysydd yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod dros y ddwy flynedd ddiwethaf, llwydda’r cysylltiad i barhau. Ym Modedern eleni, yn fy marn i roedd yr arddangosfa yr un gryfaf ers sbel, ac roedd cael clywed barn a syniadau’r cyhoedd wrth eu tywys o amgylch y lle yn hynod ddiddorol, yn achosi i mi sylwi ar elfennau gwahanol o’r amryw ddarnau bob diwrnod, a chaniatau i’m hargraffiadau adeiladu a datblygu yn ddyddiol.

Gyda phawb wedi rhyfeddu at waith Julia Griffith Jones, roedd yn bur amlwg i mi mai hwn fyddai’n ennill gwobr Josef Herman – Dewis y Bobl; ac rwy’n cytuno â’r dyfarniad. Enw’r gwaith oedd Ystafell o fewn Ystafell. A’r cyfan wedi ei greu o weiren, yr hyn a welwn yw gwrthrychau domestig o Gymru a Slofacia mewn un ystafell; ymgais felly i uno’r traddodiad Cymreig a Slofacaidd gyda’i gilydd. Gyda’r artist wedi treulio amser yn Slofacia, dotiodd ar sut y cymharai’r tŷ traddodiadol Slofacaidd gyda thŷ traddodiadol Cymreig, ac felly aeth ati i ddod â’r ddau at ei gilydd. Mor ddeniadol oedd y darn i’r llygad, a phawb wedi eu swyno gan y ffordd yr arnofiai’r darnau o’u blaen, ac oherwydd hynny teimlaf i’r gwaith fod yn llwyr haeddiannol o’r Fedal Aur am Grefft a Dylunio.

Darn arall a arhosai yn y cof wrth fynd o gwmpas yr arddangosfa oedd gwaith Christine Mills – Y Gorchudd Llwch. Wedi cael ei ysbrydoli gan Hedd Wyn a’r Gadair Ddu, rhyw fath o ‘fowld’ o’r gadair wreiddiol oedd y gwaith. Ond ni chafodd y mowld ei greu o ffelt cyffredin; yn hytrach cafodd y ffelt ei greu o wlân o ddefaid Trawsfynydd a dŵr o ffynnon yr Ysgwrn. O gofio hynny, gellir dadlau fod ysbryd yr Ysgwrn i’w gael o fewn y gadair, ac mi roedd wedi cael ei lleoli yn gelfydd yn yr arddangosfa, a hynny ynghanol y llawr, gan hawlio’i lle yn haeddianol. Roedd y ffelt wedi ei weithio fel petai rhywun wedi eistedd ar y gadair, gan ychwanegu at eironi y gadair wen.

Llun Aled Llywelyn o waith Christine Mills- Y Gorchudd Llwch, trwy garedigrwydd y Lle Celf

Cafodd gwaith cyfneither Christine Mills hefyd gryn effaith arna i, sef Eleri Mills a’i hargraffiadau o’r India. Lliwiau hynod lachar, gwahanol i’w gwaith arferol a geir yn y gwaith, a hynny i gyfleu ei hamser yn yr India yn 2016. Roedd wedi dotio at syniad y Moghul o ddisgrifio tirlun fel gardd, ac felly’r hyn oedd i’w weld oedd dehongliad o hynny. Wrth iddi ddefnyddio sidan Indiaidd i asio’r tri darn ynghyd, teimlaf i’r cyfanwaith ddod at ei gilydd yn ddawns liwgar, gyda’r pinc, piws ac oren yn neidio allan o’r gwaith. Mor ddiddorol yn fy marn i oedd cael gweld tirlun yn cael ei gyfleu mewn ffordd wahanol i’r arfer, gyda dylanwad dehongliad y Moghul i’w weld yn glir yn y gwaith. A minnau’n hynod hoff o liwiau llachar, apeliodd y darn ataf i yn syth.

Llyn Aled Llywelyn o waith Daniel Crawshaw, trwy garedigrwydd y Lle Clef

Dehongliad hollol gyferbyniol o dirlun a gyflwynodd Daniel Crawshaw, gyda thri darlun o dirlun Eryri. Yn wahanol i liwiau a siapiau pefriog Eleri Mills, lliwiau dyfn, tywyll a gafwyd gan Crawshaw. O bell, edrychai’r darluniau yn llawer tebycach i ffotograffau yn hytrach nag olew ar gynfas – gwir ddefnydd creu yr artist. Cyn dechrau peintio fe â’r artist o amgylch Eryri gan dynnu lluniau ar ei ffôn symudol, ac yna fe ddechreua beintio o ddilyn y lluniau syml hynny ar ei ffôn. Roedd y ffasiwn sioc ar wynebau pobl wrth iddyn nhw edrych yn fanylach ar y gwaith a sylwi ar y fath fanylder oedd i’w weld, yn dynodi nad ffotograff mohono. Roedd y lluniau mor real, mor fyw o’ch blaen, gyda’r niwl fel petai yn symud heibio i’r mynydd, a’r dŵr wedi cael ei beintio mor gelfydd nes ei fod yn eich tynnu i mewn i dywyllwch y llun, y duwch yn sgleinio yn awgrymog a’r dyfnder i’w weld yn glir. Y fath wahaniaeth rhwng y dehongliad yma o dirlun o’i gymharu â gwaith Mills sy’n achosi i mi fwynhau gwaith y Lle Celf bob blwyddyn – yr ystod eang o waith sydd i’w gael sydd bron yn sicrhau y bydd rhywbeth yn apelio at ddant pawb.

(Lluniau manwl o waith Daniel Crawshaw, lluniau’r artist ei hun- trwy garedigrwydd y Lle Celf)

Darn a oedd yn cymryd amser i bobl gynhesu ato ar ddechrau’r wythnos oedd gwaith Ifor Davies. Yma cawn ryw fath o gofeb i waith Robert Recorde, y mathemategydd o Ddinbych y Pysgod a ddyfeisiodd y symbolau + ac =. Cyn dod i ddeall yr hanes tu ôl i’r gwaith roedd amryw o wynebau petrusgar yn edrych ar y gwaith eithaf haniaethol, ond wrth i mi egluro’r hanes tu ôl i’r darn, fe drodd y wynebau hynny yn rhai syn, yn anymwybodol i’r symbolau rhyngwladol-bwysig gael eu cyflwyno gan Gymro. Credaf mai dyma oedd pwrpas y darn, gyda gwaith helaeth Ifor Davies yn canolbwyntio ar goffáu enwogion Cymreig. Portread o Recorde a welwn yn nhop ochr dde y darn, o fewn vortex mathemategol. Ynghanol y darn wedyn mae rhwyg amlwg i’w weld ac oddi fewn ceir offer mathemategol – er enghraifft y cwmpawd – a’r rhwyg hwnnw gyda’r gobaith o efelychu isymwybod Robert Recorde. Darn trawiadol gyda stori dda iddo, ac wrth i mi basio yn ddyddiol dros wythnos yr Eisteddfod, fe hawliodd fy sylw fwyfwy, nes erbyn ddiwedd yr wythnos cymrodd ei le fel un o’m hoff ddarnau yn yr arddangosfa.

Manylun o waith Ifor Davies, trwy garedigrwydd y Lle Celf

Teimlaf i’r Lle Celf weithio fel cyfanwaith yn hynod dda eleni, gyda phob darn wedi cael ei osod yn ei ofod unigol gyda gofal, ond eto bob darn yn llifo o’r naill i’r llall yn gelfydd. Y fath amrywiaeth rhwng y paentiadau, y cerameg a’r ffotograffiaeth, ond pob ffurf yn gweithio fel un parti i’r llygad a’r meddwl. Roedd clywed sylwadau mor gadarnhaol am y gwaith yn hynod braf, ac felly alla i ddim ond gobeithio y bydd y gwaith yr un mor amrywiol a’r safon gystal yn y ddinas fawr ddrwg y flwyddyn nesaf.

13 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page