top of page
Grug Muse

Penblwydd Hapus i'r Stamp!


Wel gyfeillion, fe ddaeth 2017 i’w therfyn, a gyda hi ryda ni’n dathlu blwyddyn gyntaf y Stamp. Yr adeg yma llynedd roeddem ni’n lansio’r wefan gyda stori fer gan ein cyfrannwr cyntaf un, stori fer o’r enw Safbwynt gan Ifan Tomos Jenkins. Yna, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf, mewn lansiad yn y diweddar Gŵps yn Aberystwyth (heddwch i’w lwch). Ers hynny, cyhoeddwyd ail, ac yna drydydd rhifyn, gan fynd a’r Stamp i Dafwyl, Gwyl Arall, ac yn fwya diweddar, Abertawe.

Mae na fwy o uchafbwyntiau na allwn ni eu cofio, ond dyma ymdrech i sbio’n ôl ar rai o uchafbwyntiau personol ein golygyddion dros y 12 mis gwirion a gwallgo diwethaf ‘ma:

Grug

Afraid dweud fod derbyn copi fresh, sgleiniog o bob rhifyn newydd am y tro cyntaf yn rhoi gwefr i’r pedwar ohona ni. Mae’r wefan yn anifail gwahanol iawn. Wrth ddechrau llynedd, doedd dim bwriad ganddo ni gyhoeddi eitem wythnosol ar y wefan. Doedden ni ddim yn credu am eiliad y byddai ganddo ni ddigon o gynnwys i gynal y wefan efo 50 eitem newydd, gwreiddiol. Ond cael ein siomi ar yr ochor orau y cafo ni, wrth i lenorion Cymru brofi fod yna egni a dyfeisgarwch a chreadigrwydd rhyfeddol allan yna. Dyma felly,

  1. Yr Helfa Drysor Fawreddog Mae’r we wrth gwrs yn cynnig digon o gyfleoedd i arbrofi, a dyna y ceisiom ni wneud wrth drefnu helfa drysor fawreddog i gyd fynd a’n rhifyn eisteddfodol arbennig. Gwasgarwyd gwaith ein cyfrannwyr ar draws gwahanol wefanau Cymraeg, gan wahodd ein darllenwyr i fynd i chwilota amdanyn nhw. Roedd o’n ddigwyddiad byw, byrhoedlog, gyda rhai o’r gweithiau eisioes wedi mynd o’r gwefannau oedd yn eu gwesteio nhw (Mae’r dolenni i’w cael yma). Mae hwn yn cyrraedd fy rhestr uchafbwyntiau i achos ei fod o’n cynyrchioli ymdrech i arbrofi efo’r hyn sydd gan y we i’w gynnig fel platfform yn wahanol i gyfryngau print, gan obeithio y gallwn ni barhau i arbrofi.

  2. Rhestr Ddarllen: Deg o awduron Benywaidd – Rydw i wedi mwynhau pob un o’r rhestrau darllen sydd wedi eu cyhoeddi ar y wefan, o restrau ar lenyddiaeth Arabeg i rinweddau Concrid mewn pensaerniaeth, gan obeithio y gwelwn ni fwy o restrau darllen ar wahanol bynciau yn y flwyddyn newydd. Arhosodd rhestr ddarllen Mair Rees ar lenyddiaeth gan fenywod Cymraeg yn y cof, am ei fod yn sbardun i drafodaeth ar le merched yn y ‘canon’ Cymreig, ac wrth gwrs yn sbardun i fynd i ddarllen eu gwaith.

  3. Dychlamiad a Charn Llidi– Yr oedd Morgan Owen yn lenor newydd y dois i ar ei draws eleni drwy’r Stamp, a dwi’n falch eithriadol mod i wedi cael y cyfle i ddarganfod ei waith o. Rydw i wedi ffoli ar ei ddefnydd o iaith, a’i arddull fyfyriol. Mae wedi bod yn gyfrannydd cyson i’r Stamp, ond dyma ddwy gerdd hyfryd ganddo sydd ymysg fy ffefrynnau.

Iestyn

  1. Cardiau Post Creadigol Y Stamp – Mae llenyddiaeth deithio yn bwysig, a’n hymgais ni i gyfrannu i’r corff hwnnw o waith yn y Gymraeg oedd i annog pobl i ddanfon pytiau byrion creadigol atom ar ffurf cardiau post wrth deithio’r byd. Un o’r uchafbwyntiau i mi yw cardyn post Mari Huws, wedi ei anfon at Y Stamp o Indonesia. Mae’n ddarn creadigol nad yw’n gerdd nac yn ryddiaith chwaith, gan un sydd wedi gweld ‘dyn yn rhedeg ei rasal ar dir fu’n wyllt’ yn ei gwest barhaus am olew …

  2. Drama Radio – Pwdin Reis – Roedd dramâu radio yn rywbeth yr oeddem ni’n awyddus iawn i’w cynnwys o’r cychwyn cyntaf, gan i ni deimlo fod y ffurf hwnnw wedi ei esgeuluso braidd yn ddiweddar. Mae prif gystadlaethau’r eisteddfodau cenedlaethol, er enghraifft, yn gofyn am ddramau llwyfan ar y cyfan. Ym mis Tachwedd cawsom ein cyfle cyntaf i gyhoeddi drama radio newydd sbon ar ein cyfri SoundCloud, gan weithio ar y cyd â Mari Elen ac actorion o Gwmni’r Tebot, Lois Llywelyn ac Elin Ellis. Mi wnes i fwynhau mentro i gyfryngau newydd efo’r Stamp, a gyda gobaith, dyma fydd y cyntaf mewn cyfres o ddramau byr ar gyfer y wefan.

  3. Cerddi Amsterdam – Un sydd wedi cyfrannu’n gyson i’r Stamp dros y flwyddyn yw Beth Celyn. Mae ei cherddi’n ymateb i gelf a welodd ar daith i Amsterdam ym mis Chwefror yn boenus o gynnil, bron, ac mae’r gic ffeminyddol yn taro’r lle iawn drwyddynt. Pedair o gerddi byrion gan fardd sy’n prysur gwneud enw iddi’i hun fel un o Gywion Cranogwen ac fel cerddor (daeth ei EP cyntaf, ‘Troi’, allan ar Label Sbrigyn Ymborth fis Rhagfyr).

Miriam

  1. Cerdd: Kalamari – Caryl Bryn – Un o gerddi mwyaf poblogaidd y wefan yw un o fy uchafbwyntiau am ‘leni, gyda Kalamari yn barodi arbennig gan Caryl Bryn yn codi sawl gwên a phromptio ambell gigl. Er mae cerdd ysgafn yw hon, mae cerdd sy’n olygfa graff o blatfform 2, Wirral Line yn rhifyn cyntaf Y Stamp, a dyma fardd dwi wrth fy modd yn ei chwmni’n bersonol a thrwy ei gwaith.

  2. Cyfweliad: Criw ‘Er Cof’ – Naomi, Nannon, Megan a Meleri – Sêr 2017 i fi yw criw Er Cof, a ddaeth i lansio ail rifyn Y Stamp gyda ni. Dysgwch fwy am y myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n rhoi profiadau real, onest ar lwyfan mewn drama hir-oddefol. (Ac oedd, roedd hi’n anodd iawn dewis rhwng eu cyfweliad nhw a cyfweliad gyda’r amryddawn Bethan Mai nol yn gynharach y flwyddyn hon!)

  3. Dathlu: Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2017 – Gan fod Grug eisoes wedi achub y blaen ar ddewis rhestr ddarllen Mair Rees fel un o’i huchafbwyntiau hi, dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda Elinor Wyn Reynolds, Hannah Sams ac Ifan Morgan Jones sy’n cael ei ddewis fel trydydd uchafbwynt i fi. Rhannodd y tri brofiadau o darllen gwaith gan awduron benywaidd a phwysigrwydd astudio testunau gan awduron benywaidd – trafodaeth sy’n dal i fod yn berthnasol heddiw.

Llŷr

  1. Rhywbeth sydd y bwysig i’r Stamp ac yr yda ni’n cael hwyl o lew arni hi dybiwn i ydi cynnwys profiadau sydd heb gael sylw dyledus hyd yn hyn. Da ni fel criw yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio hefo mudiadau ac unigolion ac o un o’r ymgyrchoedd hynny ddaeth a Profiad: Pride Cymru – Jordan Price Williams a Beth Williams-Jones i ni. Yn yr un modd fe gafo ni gip ar y rhwygiadau yn America wedi llanast yr etholiad diweddar gan Mary Muse, a chip llawer fwy personol os ca’i ddeud na oedd ar gael ar y newyddion.

  2. Dwi’n ddipyn o ffan o gemau fideo a pethau felly ac wedi meddwl mwy nac unwaith y leciwn i fynd ati i weithio ar rywbeth o’r fath. Difyr ofnadwy felly oedd darllen Trafod: Arf ac Anrheg – Daf Prys, erthygl yn trafod ei waith o yn y byd hwnnw yn Seattle bell. Dyma erthygl sydd hefyd yn galw am ail-berchnogi’n traddodiad llenyddol ac yn ei hatgoffa ni fod yna fwy o iws iddo fo nac ei adael o mewn cwpwrdd gwydr yn unig, sydd mewn ffordd yn debyg iawn i amcanion Y Stamp.

  3. Un peth sydd wedi fy synnu fi a codi’n nghalon i lawer i dro ydi bod unigolion yn dod at y Stamp hefo gwaith a hynny heb i ni orfod holi rhyw lawer neu o gwbwl ambell dro. Gwaith unigolion sydd efallai heb gyhoeddi rhyw lawer o’r blaen os o gwbwl ac ryda ni wastad yn falch o gynnig llwyfan i waith felly waeth sut y daw o i law. Dros neges Facebook y daeth Cerdd: Dyn-gar-gwch – Lowri Hedd atom ni. Dyma gerdd sydd hefyd yn dangos pa mor handi ydi cyhoeddi ar y we o ran gallu ymateb i ddigwyddiadau penodol yn sydyn, Diwrnod Ffoaduriaid y Byd yn yr achos hwn.


13 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page