top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

24:24/17 | Gorwel Tywyll - Ëadyth Crawford

Mae pethau'n plygu yn yr oriau mân. Yr 17eg (!) artist i ymateb i'r Her 24 Awr i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yw'r gantores amryddawn Ëadyth. Mae hi wedi creu'r trac sain a'r fideo 'Gorwel Tywyll' mewn ymateb i ddawns 3 y bore Elan Elidyr.


----------

Mae Eädyth yn brysur ddod yn enw adnabyddol i wrandawyr BBC Cymru a BBC Radio Cymru oherwydd ei sain electro soul unigryw a’i thelynegiaeth ddwyieithog. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Eädyth wedi bod yn rhan o gynlluniau datblygu talent BBC Horizons a Forté Project, gan brofi ymhellach sut y buddsoddodd diwydiant cerddoriaeth Cymru yn ei thaith i ddod. Bydd grandawyr Solange ac Abi Ocia yn ymhyfrydu yng nghynhesrwydd lleisiau soul, esgynedig Eädyth, tra bydd cefnogwyr Massive Attack a Burial yn mwynhau'r cyfuniad o guriadau toredig gyda chynhyrchiad tywyll.


 

Beth yw eich barn chi am yr Her hyd yn hyn? Rhowch wybod i ni ar twitter @ystampus ac instagram @cylchgrawn_y_stamp gan ddefnyddio #Her24Awr

75 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page