top of page
Y Stamp

Cerdd a Chelf: Ysgyfarnog - Morwen Brosschot a Kim Atkinson


Sgwarnogod - Kim Atkinson

Daeth yr eira’n

ddirybudd

a disgynnodd

fesul pluen

wynias, wen

drwy’r dydd.

A ninnau’n dau

a’r ci

yn dringo’r allt

rhwng dau glawdd.

Pob polyn a phostyn,

pob gwifren a giât,

pob llwyn,

yn farciau siarp

pen ac inc

ar ddalen lân.

Côt y ci

yn gwynnu’r eira;

welais i erioed

mohono yn edrych

mor ddu.

Y tawelwch yn

aruthrol

a’r eira’n aros.

Daeth yr ysgyfarnog

yn ddisymwth

drwy fraslun o ffens.

Ymddangosodd ar

ein canfas

yn dalp o ynni,

yn ddarn o fywyd

gwinau

o gig a gwaed.

Safodd yn stond.

Pa ffordd?

Gyda llam a naid

caeodd ei safn

am y corff cynnes.

Gollwng hi!

Rhy hwyr.

Asen fain yn trywanu

ysgyfaint - sŵn boddi;

Curiad calon yn

gwanhau

a dau lyn ei llygaid

yn rhewi’n raddol

drostynt.

Mwclis o waed yn fferru

ar ei ffroenau,

a ninnau,

yn oeri yn yr eira.

Morwen Brosschot

Mae cerdd arall o eiddo Morwen, ‘Georgia’, ar gael i’w darllen yn Rhifyn 4 Y Stamp - Gwanwyn 2018.


63 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page