top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Ymateb: Y Lle Celf - Bethan Scorey


Mae arddangosfeydd celf yn amlach na pheidio yn gaeedig a’n fewnsyllgar, wedi’u curadu i sicrhau fod y celf yn ganolog. Gallwn ddisgrifio’r Lle Celf arferol yn y modd hwn; byd bychan sy’n teimlo fel cyrchfan megis gardd waliog. Bodola’r Lle Celf dros dro, felly mae’r curaduron yn wynebu’r sialens o gynhyrchu ‘lleoliad’ newydd yn flynyddol. Mae’r arddangosfa gan amlaf ar raddfa ddomestig, sy’n cyferbynnu’n addas efo tirweddau eang a gwledig a maes yr Eisteddfod, ac yn sicrhau mai’r celf sy’n llenwi’r gofod. Yn draddodiadol, caiff eich holl brofiad o arddangosfa’r Lle Celf ei reoli'n ofalus, ag unrhyw wrthdyniadau eu hatal i sicrhau amgylchedd sefydlog lle rhoddir sylw diamod i’r celf, efo llwybr penodol i ymwelwyr. Mae hyn yn creu profiad cyffredinol iawn, ac yn golygu fod pob ymwelydd yn profi’r arddangosfa dan yr un amodau, sy’n ddemocrataidd iawn ac yn sicrhau barn niwtral.

Ond gall cyflawni'r amodau hyn arwain at greu gofod ynysig iawn sydd ddim o reidrwydd yn addas i hyrwyddo’r celfyddydau gweledol a phensaernïaeth yn yr Eisteddfod. Yn hanesyddol, dioddefodd y celfyddydau yng Nghymru o ganlyniad i ddiffyg adnoddau i fuddsoddi mewn celf a phensaernïaeth gyhoeddus. Yn hytrach, mynegwyd hunaniaeth Gymreig trwy’r iaith, llenyddiaeth a’r celfyddydau perfformiadol. Ond mae’r celfyddydau gweledol yng Nghymru bellach yn llewyrchus ac mae’n bwysig hyrwyddo hyn yn yr Eisteddfod. 

Eleni cafodd y Lle Celf weddnewidiad; trodd y gofod mewnol, ynysig yn un allblyg oedd yn estyn allan i bob cornel y Bae. Yn ogystal â natur dryloyw adeilad y Senedd, a hysbysebodd yn llythrennol weithgaredd a chyffro’r Lle Celf i weddill y maes, estynnodd y celf y tu hwnt i'r adeilad gyda Carnifal Y Môr a'r tafliadau dŵr bob nos. Roedd ffurf adeilad y Senedd, sy'n camu o'r dŵr i greu 'fforwm' gyhoeddus, yn diddymu ffiniau gweladwy y Lle Celf. Edrychodd yr arddangosfa allan, ac yn bwysicach na hynny, roedd yn gwahodd y byd i mewn.

Roedd graddfa ac amgylchedd y Senedd i gymharu efo safleoedd Y Lle Celf yn y gorffennol yn drawiadol a braidd yn frawychus i ddechre. Yn hytrach na dyfeisio gofod newydd ar safle dros dro; ‘llechen lan’ fel petai, wynebodd y curaduron adeilad gyda chymeriad sefydledig ac ymdeimlad cryf o ‘le’ eisoes. Roedd yn bur amlwg na fyddai unrhyw arddangosfa yn gallu cystadlu â mawredd a graddfa'r Senedd, felly’r her oedd creu arddangosfa i siwtio’r gofod yn hytrach na mowldio gofod i ddal y celf. Mae ffurf pensaernïol y Senedd yn creu gofod gwag i’w lenwi; y to tonnog, amlwg a’r llawr llechi yn siapo’r gofod cyhoeddus, y tu mewn a’r tu allan, ac yn creu llannerch yn y bae prysur. Yno, diffinnir y gofod ond nid ei gynnwys.

Nid y celf oedd y canolbwynt naturiol, sy'n gysyniad anarferol ac eithaf heriol mewn arddangosfa. Fel ymwelydd i'r arddangosfa, roedd rhaid derbyn y ffaith nad oedd gan y gwaith celf unrhyw siawns wrth gystadlu gyda'r gofod eang hwn a’r pensaernïaeth o’i gwmpas. Yr her newydd oedd angori'r darnau celf cymharol fach yn y gofod helaeth hwn; unwaith eto, roedd ffurf pensaernïol yr adeilad yn gymorth. Mae siâp y Siambr yn creu echelin fertigol pwysig sef canolbwynt materol a throsiadol Y Senedd. Mae'n atgoffaol o dai Prairie Frank Lloyd Wright, lle mae'r lle tân yn bwynt canolog sefydlog, sy'n heplu i fewnblannu’r tŷ yn y tirwedd, tra bod yr ystafelloedd o'i gwmpas efo teimlad llorweddol cryf. Caiff cynllun tair llawr y Senedd ei angori yn y gofod gan y Siambr. Defnyddiodd arddangosfa’r Lle Celf— oedd wedi’i ledaenu ar draws tri llawr ac yn lapio’n llac o gwmpas y Siambr— y nodweddion hyn i’w fantais.

Gallai gofod eang, helaeth yn y Senedd fod wedi gorlethu'r arddangosfa a dychrynu ymwelwyr, ond llwyddodd y curaduron i dorri'r gofod mewn i ardaloedd llai â ffiniau a rhinweddau gwahanol. Wrth symud trwy'r Lle Celf, daeth yr ymwelwyr at gelf mewn atriwm enfawr, llachar lle mae sŵn yn adleisio, a wedyn at gelf mewn corneli tywyllach gyda nenfydau isel oedd yn dawel a myfyriol. Roedd y penderfyniad i ddefnyddio’r Cwrt ar y llawr isaf, sydd fel arfer ar gau i'r cyhoedd, yn un clyfar, a oedd yn creu ardaloedd yn yr arddangosfa oedd yn cyferbynnu a'r Oriel a’r Neuadd mwy agored, dynamig ar y lloriau uwch. 

Roedd yr amrywiaeth a grëwyd gan gynllun yr arddangosfa yn gwneud profiad yr ymwelydd yn ddifyr ac yn sicrhau bod symud trwy'r arddangosfa yn brofiad ymwybodol iawn, tra’n diogelu’r ymwelwyr a'r gwaith celf rhag arnofio yn y gofod. Creodd natur dryloyw yr adeilad awyrgylch dynamig, trwy ganiatáu i'r tywydd a symudiad y pobl y tu allan ymdreiddio i mewn.

Yn ddiddorol, roedd nifer o'r darnau celf ar raddfa domestig, bersonol iawn a anogodd ddeinamig agos rhwng y gwaith a'r sylwedydd yng nghyd-destun y gofod eang. Roedd cerfluniau Kelly Best yn awgrymu ymestyn i’r gwagle, tra oedd gwaith Zoe Preece yn delio’n llythrennol efo gwrthrychau domestig oedd yn cyferbynnu â natur y gofod cyhoeddus enfawr. Roedd gan ddarnau Cath Fairgrave ac Andy Griffiths ddeunyddiau a ffurfiau cryf oedd yn rhyngweithio'n dda â phalet pren, dur a llechi y Senedd, ac yn adleisio’r thema o gynnwys gofod ond ar raddfa llai, tra gosodwyd crochenwaith Justine Allison a Jin Eui Kim mewn lleoliad oedd yn galluogi’r gwaith i ryngweithio â ffurf tonnog y nenfwd pren. Crëwyd cydosodiad gan rai o'r darnau a oedd yn annog ymwelwyr i ddianc yr arddangosfa am gyfnod byr megis gwaith ddigidol Gweni Llwyd a gwaith clywedol Glyn Roberts oedd yn cludo'r gynulleidfa o'r Senedd yn gyfan gwbl am ychydig. 

Roedd ansawdd yr arddangosfa a grëwyd gan y cyfuniad o'r Senedd, y celf a'r curadur yn ysgogol a dynamig, gydag awyrgylch anffurfiol a anogodd ryngweithio a thrafodaeth mewn ambell fan a thawelwch a chynhemlad mewn mannau eraill. Roedd ymwelwyr yn gyfarwydd â'r adeilad ac felly yn gyfforddus wrth crwydro’r arddangosfa. Llwyddodd y gwaith celf ar raddfa dynol greu egni a oedd yn llenwi’r gofod cyfan. 

42 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page