top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

Cyhoeddiad: Celf wrthodedig - 'dim eto'

Updated: Aug 19, 2020


Celf wrthodedig yn gweld golau dydd

Mae’r Stamp yn falch o gyhoeddi’r diweddaraf yn ein cyfres o bamffledi, a gaiff ei ryddhau yr haf hwn.

Mae dim eto yn casglu ynghyd ddarnau o waith celf gweledol sy’n wrthodedig gan yr artistiaid eu hunain – hynny yw, dyma gelf nad yw’r artistiaid yn hollol hapus gydag ef neu gelf na fydden nhw fel arfer yn dangos i’r cyhoedd.

Yn ogystal â’r pentwr o drysor gweledol sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf, ceir rhagair craff gan Dylan Huw yn trafod y syniad o ‘gelf wrthodedig’.

Mae'r artistiaid sydd wedi cyfrannu at y casgliad yn cynnwys Carlota Nobrega, Rhys Aneurin, Mary Lloyd Jones, Elin Meredydd a Ruth Jên.

I ddathlu cyhoeddi’r pamffled, bydd sesiwn yn cael ei gynnal gyda’r golygydd Esyllt Lewis, Dylan Huw a rhai o’r artistiaid yn Y Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ar Ddydd Sadwrn y 10fed o Awst am 2.

69 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page