Cafodd Y Lle Celf yn yr Eisteddfod ymateb cadarnhaol eleni, ac mae gan ein hadolygydd syniadau ar gyfer agor y drws i ragor o bobl fwynhau'r arddangosfa flynyddol fwyaf o gelf weledol cyfoes yng Nghymru.
Unwaith eto mae’r lle celf wedi llwyddo i arddangos amrywiaeth eang o waith sy’n pwysleisio cryfder y byd celf yng Nghymru ar hyn o bryd.
Roedd y gofod eleni wedi ei osod yn wych. Digonedd o le i bobl fynd o amgylch y babell a mwynhau’r gwaith, gyda’r darnau yn gweddu’n dda gyda’r rhai o’u hamgylch. Dechreuais i yn y stafell bensaernïaeth. Roedd cymaint o adeiladau anhygoel yn yr arddangosfa eleni a dwi’n hoff iawn o’r lluniau yn dangos yr adeiladau'n cael eu defnyddio.
Siom yw hi na fydd yr arddangosfa hon yn gallu cael ei harddangos eto ar ôl bod yn y brifwyl. Byddai mynd â’r arddangosfa hon i unrhyw un o’r dewis eang o ganolfannau celfyddydol sydd gennym ar hyd a lled Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl na fyddai wedi ymweld â’r Eisteddfod i weld y gwaith.
Mae’r syniad o gael cerddi wedi eu sgwennu am y gwaith a’u gosod wrth eu hymyl yn un gwych. Fy hoff un i oedd cerdd Rhys Iorwerth yn trafod gwaith Gwen Evans. Mae’r cerddi yn dangos persbectif gwahanol ar y gwaith.
Braf oedd gweld gwaith gan bobl ifanc yn yr arddangosfa – nid yn unig enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc, Hannah Cash, ond gwaith yn yr arddangosfa ei hun. Mae hyn wir yn rhoi hwb i bobl ifanc i ddangos y posibiliadau o gael dangos gwaith yn arddangosfa’r brifwyl.
Un o’r uchafbwyntiau yn y lle celf oedd y fideo o’r artistiaid. Roedd cael gweld yr artistiaid ar waith yn syniad gwych, a dwi’n gobeithio y gwelwn ni hwn eto yn Nhregaron, gyda hyd yn oed mwy yn cael ei ddangos yn y fideo.
Er bod y cyfle ar gael i rywun dywys chi o amgylch yr arddangosfa – efallai na fyddai pawb yn awyddus i gael rhywun i’w tywys, neu ddim yn gwybod fod hyn yn bosib – efallai y byddai creu adnoddau i gydfynd â’r arddangosfa yn syniad da. Mewn rhai arddangosfeydd mae’r opsiwn o gael tâp gwrando i fynd a chi o amgylch yr arddangosfa, sydd bob tro yn gwneud i mi ddysgu llawer mwy am yr artist a’r gwaith, ac yn gwneud i mi dreulio mwy o amser yn edrych a gwerthfawrogi’r gwaith.
Syniad arall fyddai cael adnodd syml i bobl sydd ddim fel arfer yn ymweld ag arddangosfeydd celf yn awgrymu pethau i ystyried ynglŷn â’r celf, gan wneud i’r unigolyn dreulio amser yn meddwl am yr hyn sydd o’i blaen. Gan fod arddangosfa y lle celf wedi ei leoli fel rhan o’r brifwyl, mae’n rhoi’r cyfle i bobl na fyddai fel arfer yn mynd allan yn uniongyrchol i weld arddangosfa gelf. Efallai y dylid gwneud mwy o bethau er mwyn targedu y rheiny nad ydynt yn deall neu’n gwerthfawrogi’r dalent.
Bob blwyddyn mae’r lle celf yn llwyddo i wneud i fi fynd yno droeon yn ystod yr wythnos, i edrych unwaith eto ar y gwaith a’i weld mewn ffordd wahanol.
-----
Cyhoeddir holl adolygiadau'r Stamp yn ddienw. Am restr gyfredol o'n hadolygwyr, cliciwch yma.