Bu ein hadolygydd draw i Galeri, Caernarfon i weld arddangosfa o waith Marian Haf dan y teitl 'Argraff', sydd i'w weld yno rhwng16.12.19 – 31.01.20.
Yng nghanolfan Galeri Caernarfon, mae’r Safle Celf yn ymestyn dros sawl ystafell ac yn cwmpasu amrywiaeth difyr o arddangosfeydd. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys casgliad o offerynnau gwerin a phaentiadau gan Alan Ginsberg, ffotograffau du a gwyn gan Stephen Heaton, ac arddangosfa o waith Marian Haf: Argraff // Impression.
Yn y safle mwyaf amlwg ac agored y mae gwaith Marian Haf, sef Y Wal, ac mae ei chasgliad o golograffau (collographs) a’i hysbrydolwyd gan gwiltiau yn llenwi’r gofod yn gyfforddus. Yn fras, techneg sy’n cyfuno collage a phrintio yw colograff, lle crëir plât allan o amryw o ddeunyddiau a gweadau, cyn ei ddefnyddio i greu print ar bapur.
Y prif beth a’m trawodd oedd y ffordd y mae ei gwaith, ar yr ymddangosiad gyntaf, yn syml a chynnil, ond wrth graffu’n fanylach, daw’r holl haenau a gweadau gwahanol i’r amlwg.
Ceir yn y colograffau batrymau geometregol a chylchoedd yn ailadrodd, a phatrymau clytwaith a chwiltiau, wedi eu cyfosod â theipograffeg o amryw destun. Rhigymau, caneuon poblogaidd ac emynau yw’r testunau, gyda’r llythrennau wedi eu boglynnu (embossed) i mewn i’r papur. Maent wedi eu gwasgu i mewn yn ddwfn i’r papur trwchus, ac yn ymddangos yn debyg i’r sut buaswn innau’n dychmygu i hen lyfr edrych petasai’n mynd trwy’r wasg heb unrhyw inc.
Yn narn mwyaf yr arddangosfa, ‘Arglwydd Dyma fi’, mae’r defnydd o deip serif bras wedi ei stampio i mewn i’r papur yn f’atgoffa o garreg fedd, teimlad a atgyfnerthwyd gan natur Feiblaidd y testun, a’r ffordd y mae geiriau’r emyn bron iawn wedi eu cerfio i mewn i’r deunydd. Cyfosodir hyn gyda’r inc melfedaidd sydd wedi ei brintio dros ei ben, gan greu ffurf syml sy’n tarddu o batrwm clytwaith. Ar draws dwy ddalen o bapur ar wahân ymestynnai’r darn hon, gan ychwanegu syniadau o ddeuolrwydd bywyd dynol, rhwng y ddaear a’r nef, neu rhwng cwsg a deffro.
Disgrifir yr arddangosfa fel cyfuniad o ‘threftadaeth a hiraeth’, ac rwyf yn cytuno’n llwyr; mae'r darnau'n deffro atgofion o wersi ysgol, ysgol Sul, cartref a gwlâu clud, yn ogystal â syniadau o golled a galar dros yr hyn a fu ac na fydd byth eto.
Nid oeddwn wedi dod ar draws gwaith Marian Haf cyn fy ymweliad â Galeri, felly chwiliais amdani ar gyfryngau cymdeithasol i ddysgu mwy, ac roeddwn wrth fy modd yn darganfod fideos byr ganddi yn dogfennu'r gwahanol brosesau cymhleth y mae'n eu defnyddio. Ychwanegodd hyn fwy fyth o werthfawrogiad at gywreindeb a chelfyddyd y gwaith. Mae ei chyfuniad o iaith, gwead a thechneg yn creu gwaith aml haenog sy’n gywrain, cynnil a hardd, ac er mai dim ond pum print sydd wedi eu fframio yna, mae digonedd ynddynt i gynnal diddordeb.
Cafwyd yma flas bach o’r posibiliadau pellgyrhaeddol sydd yng ngwaith Marian; rwy’n amau bod llawer mwy o archwilio i’w gael o’r themâu hyn, ac rwyf yn awyddus iawn i weld mwy o’i gwaith yn y dyfodol.