top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Celf Bwyd: Brechdan Hapus Sioned Medi Evans

"Mi ydw i wrth fy modd yn darlunio amryw o fwydydd amrywiol, gan roi cymeriad bach gwahanol i bob un er mwyn ychwanegu elfen bach o hwyl i 'ngwaith. Mae bwyd yn thema eang iawn gyda chymaint i'w gynnig o ran lliw, siâp a gwead. Mae'n braf gallu creu byd bach fy hun o'r cymeriadau yma i bobol i'w mwynhau, mae pawb angen brechdan bach hapus yn eu bywydau weithiau."

*

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, mae Sioned bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae'n hoffi creu gwaith sydd yn cyfleu neges arbennig, ysbrydoledig, ac hefyd darnau sydd yn ysgogi positifrwydd a theimladau calonogol. Gallwch weld rhagor o'i gwaith drwy ei dilyn ar Instagram ar @s_m_e_i a @cantamilofreuddwydion.

2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page