top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Celf bwyd: Ffrwythau Llachar Cerys Scorey


“Rwy’n hoffi ymweld ag amrywiaeth o leoliadau deinamig i arlunio. Gan nad ydw i’n medru gwneud hynny ar hyn o bryd, rwyf wedi ceisio dod o hyd i siapiau a lliwiau deinamig yn fy mywyd cartref o ddydd i ddydd. Wrth goginio’n amlach gyda ffrwyth a llysiau ffres, dwi 'di sylwi'n fwy ac yn fwy ar eu lliwiau llachar, a 'di bod yn ysu i'w harlunio. Er bod fy narluniau fel arfer yn fywiog ac yn reddfol, mwynheais arafu ychydig ac ystyried manylion y darn hwn. Mae'r broses wedi profi i fod yn newid ymlaciol o edrych ar sgriniau a darllen y newyddion.”

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Cerys yn fyfyriwr blwyddyn olaf Illustration Animation yn Kingston School of Art. Mae hi'n mwynhau darlunio â llaw ac yn canolbwyntio ar agweddau o’r broses greadigol sy’n effeithio profiad yr artist fel amgylchedd, iechyd meddwl a ‘bloc creadigol’ y mae hi'n eu hystyried yn elfennau pwysicach na'r canlyniad materol ei hun. Gallwch ddod o hyd i fwy o'i gwaith celf drwy ddilyn @cerysscoreycelf ar Instagram.

2 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page