top of page

Bwydo'r cof : Elin Sutton + Lowri Angharad

  • Writer: golygyddionystamp
    golygyddionystamp
  • May 10, 2020
  • 2 min read

I gloi mwy na mis o fwyd ar wefan Y Stamp, mwynhewch fwydo'r cof gyda phytiau rhyddiaith blasus Elin Sutton, a ffotograffau breuddwydiol Lowri Angharad.

 

Chips a rissole o’r papur wrth gerdded adre o ddosbarth nos. Digonedd o halen a finegr.

Cash only plis.

*

* Cacen penblwydd-quarantine. Cacen i frecwast, cacen i bwdin. Cacen i ddathlu 24 mlynedd.

* Pobi bara ffresh tra’n torri dy galon.

*

*

Cebab o KB’s ar ôl noson o ddawnsio a chwerthin a chwyrlïo. Mint sauce a salad. Sdedda lawr, dyw’r hwyl heb fennu ‘to!

*

Cinio Dydd Sul cynta’ ers colli Gramp. “Do I set a place here now?

* Bîns ac wŷ ar dost fel breichiau Mam amdanat.

* Gwledd o Chinese rownd bwrdd bach y gegin. Chips neu beidio? Pwy ordrodd beth? Ai euogrwydd yw hwn neu just gormod o MSG?

*

* Pice ar y mân yn y pub, a ham toasties ar ôl brwydro’r eira. Dyma i chi gyfeillgarwch.

* M&S Meal for Two. Pizza a Prosecco:

“Is that ice bucket just your wastebin?”

“I was trying to impress you...”

Wedest ti ddim wrtho fe nad wyt ti’n byta caws.

*

Crwydro strydoedd Ewrop am foreubrydau melysmelys.

* “Pam wyt ti’n coginio rysait 4 awr Shepherd’s Pie Nigel Slater am 7 o’r gloch ar nôs Lun?!?!”

Pam lai.

* Braised cabbage, beef ghoulash, glased o win coch, a charedigrwydd dy ffrindiau, i’th dwymo’n lân.

* Cacen Marmite. Y Pièce de Résistance.

*

*

Ac i’r prydau yr anghofiais a’r prydau nas gwyddwn eto. Gymera’i un o bopeth.

* * *

 
 

Gallwch ddilyn trydariadau Elin Sutton ar twitter @penfelin

+

Gallwch weld rhagor o ffotograffau Lowri Angharad ar instagram @lowriangharad

[ bwytewch a byddwch saff ]

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page