top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/11 | Mae Caerdydd yn sâl - Beth Celyn

Unfed artist ar ddeg 24:24, her greadigol 24 awr Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, yw Beth Celyn. Mae ei cherdd gyda thrac sain i gyd-fynd yn ymateb i'r darn blaenorol gan Rhys Aneurin. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.


Mae Caerdydd yn sâl


Taswn i'n gosod y fraich a nodwydd

ar ei gwythiennau crynedig,

be fasa hi'n atseinio?


Crisialau'r llwybr llaethog yn llithro

rhwng pob haen? Cymylau lludw

yn lluwchio fel eira?


Adeiladau sgwarog, cam yn llyncu'r

ddaear dan draed, a neb yn gwreiddio

dan waeddau ffôl?


Taswn i'n gosod y fraich a nodwydd,

a fasa'n ormod i mi obeithio

clywed adar yn canu?



-----

Mae Beth Celyn (@BethCelyn ar IG a Twitter) yn gantores-gyfansoddwraig ac yn fardd. Mae hi'n un o dderbynyddion Cynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020 ar gyfer awduron newydd ac yn mwynhau creu cerddoriaeth, perfformio a chadw llyfrau creadigol llawn cerddi, myfyrdodau a darluniau. Dros y cyfnod clo bu'n cydweithio â'r artist Manon Awst trwy gyfansoddi cerddoriaeth gefndirol ar gyfer ei fideos celf weledol, ac ym mis Awst, mynychodd y cwrs In Surreal Life dan arweiniad y bardd Shira Erlichman.

64 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page