top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/18 | Hunanbortreadau - Gwenno Llwyd Till

Deunawfed artist yr Her 24 Awr i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yw'r Gwenno Llwyd Till, sy'n golygu ein bod 3/4 y ffordd drwy'r cyfnod. Mae hi wedi creu cyfres o hunanbortreadau mewn ymateb i 'Gorwel Tywyll gan Ëadyth Crawford, ac yn nodi'r dyfyniad yma o'r gân yn benodol:

“Paid tynnu fi lawr... i’r dyfnderoedd du. Tywyllwch du. Tywyllwch ar fy ngorwel.”
Hunan bortreadau yn cyfleu’r tywyllwch, ond hefyd yr wrthwyneb - gall gariad fod yn ddyfnderoedd du. Dyma wnes i feddwl am, lliw yn dod mewn i fywyd unigolyn ar ôl profiadu gal gwarad o’r tywyllwch ma ar y gorwel. Teimliadau o unigrwydd a o golli cariad. 


-----

Mae Gwenno Llwyd Till (@gwennofilm a @gwenno ar IG) yn artist 19 oed o Gricieth, Gogledd Cymru, sydd ar fin mynd i astudio ffilm yn Llundain. Mae'n treulio mwyafrif ei hamser yn gweithio gyda ffotograffiaeth a ffilm, ac yn mwynhau ffotograffu hunanbortreadau, pobl a thirweddau.

68 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page