top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/19 | Dau - Rhiannon M. Williams

Artist rhif 19 her 24:24 Y Stamp x Llenyddiaeth Cymru yw Rhiannon M. Williams. Mae ei cherdd a'i chyfres o ffotograffau yn ymateb i gyfres o hunanbortreadau gan Gwenno Llwyd Till.


Rhybudd cynnwys: Mae'r darnau hyn yn trafod colli plentyn, ac fe allant beri gofid i rywun sydd wedi cael ei effeithio gan y math yma o golled. Mae elusen Sands yn cynnig cefnogaeth am ddim ar 0808 164 3332.


Dau

(ymateb i waith Gwenno Llwyd Till, a datganiad gan Undod fod dau o fabis wedi marw tra’n cael eu geni yn y carchar llynedd.)


Ma pedwar dan fy ngharthen i

Mwythau meddal yn meddiannu

Dim ‘cer nol i dy wely’

Ma croeso a cwtsh ma i chi.

Ond licen i lonydd weithie;

ma’n nyddie i’n llawn chi,

gai amser i orwedd jyst fi?

Ond fi’n dysgu am fy mraint a’n diolchgar bo fi’n bod.

A bod gen i ddwy, tra bo dau na fu.

Anrhydedd fy llinyn bogail yw cynnal

Nid crebachu i ddim.

Fi’n rhydd i eni a charu.

Fi’n camu ar y lego am y canfed tro

A’n diolch am boen croen nid tor calon.


-----

Mae Rhiannon M. Williams (@rhiannonmwill ar IG, @RhiannonMWill ar Twitter) yn ddarlithydd theatr a drama ym Mhrifysgol De Cymru, yn ymarferydd theatr ac yn Fam i ddwy o ferched ifanc. Mae ei hymchwil a'i gwaith ymarferol yn aml yn edrych ar berfformio diwylliant Cymraeg, yn enwedig yn nhraddodiad y capel - ac yn fwy diweddar ar hunaniaeth y fenyw o fewn y gymdeithas honno.

195 views0 comments

Recent Posts

See All

Comentários


bottom of page