top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/23 | Amser troi'r gêm arnyn nhw - Tess Wood

A dyma ni wedi cyrraedd cyfraniad OLAF OND UN 24:24, ein prosiect boncyrs ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru. Cyfrannwr rhif 23 ydi Tess Wood, ac mae hi wedi bod wrthi yn ymateb i gerdd a thrac Rufus Mufasa. Gallwch ddysgu mwy yr Her 24 Awr yma.






Dwi erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen ond wnes i ffeindio paramedrau'r dasg yn ddefnyddiol iawn ac yn ofod egniol iawn i weithio o'i fewn.
Roedd cerdd Rufus yn fwy o ddeunydd crai i mi weithio hefo fo yn hytrach na'r sain. Ro'n i hefyd yn ffeindio'r testun yn eithaf dystopaidd yn ogystal â bod yn ddyfodolaidd ac yn llawn gweledigaeth; mae fy ngwaith i yn cynnwys elfen ethereal ac felly ro'n i am ddod â hyn i'r syniad yma fod y dyfodol a newid yn rhywbeth mwy dirgel a chyffrous trwy'r anwybod.
Fe wnaeth fy flatmate adrodd rhai elfennau o'r testun ac wedyn fe wnes i olygu nhw ar Ableton. Fe wnes i hefyd greu clip bychan o symudiad wrth ddefnyddio adlewyrchiad dŵr ar Instagram.


-----

Amcan ymarfer creadigol Tess Wood (@tesshonorwood ar IG) yw mynegi a dyfnhau ei dealltwriaeth o ryngweithio dynol a rheolaeth gymdeithasol, gan gyflwyno ei pherfformiadau i'w chynulleidfa mewn ymgais i gynnig cyfle iddynt, i brofi ac ystyried teimladau tuag at bynciau megis rhywedd, rhywioldeb, grym a'r adegau o ofn, cariad, angerdd a rhwystredigaeth sy'n codi o fewn y rhain yn y dydd cyfoes.

66 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page