top of page
Writer's pictureIestyn Tyne

24:24/22 | Rufus Mufasa

Trac hip-hopaidd ei naws a cherdd mewn ymateb i haiga John G. Rowlands a ddaw gan gyfrannydd rhif 22 i 24:24, Rufus Mufasa. Gallwch ddysgu mwy yr Her 24 Awr yma.

Gwlith dwyieithog

Casglu pob diferyn

Falle fydd y gaeaf yn hir

Cofiwch Dryweryn ...


Mewn cyflwr o gloi i lawr

Ni wedi meistroli edrych i mewn

Rhagwelediad, annibyniaeth Cymru

Amser troi'r gêm arnyn nhw ...


Mae gen i weledigaeth ar gyfer fy mhlant

Mae gen i weledigaeth ar gyfer ein tir

Wedi cael digon o'u hesgusodion

Trowch yr ESGEULUSTOD mewn i rhywbeth pur...


Mae popeth wedi pydru

Ond mae Cymru'n tyfu

Rowch y cyfle i ni'n Dau Ddatblygu

Gallwn ddal ein cenedl ein hunain, totally tidy ...



Tudalen o gylchgrawn Zimbabweaidd sydd wedi ei fframio ar y wal yn stiwdio Rufus, ac sydd wedi helpu trwy'r cyfnod covid o'i ffram aur. Roedd hi'n gwylio ac yn cyfrannu wrth i'r gerdd hon siapio.


-----

Mae Rufus Mufasa (@rufus_mufasa ar IG, @rufusmufasa ar Twitter) yn artist arloesol, yn weithredwr llenyddol, yn fardd, yn rapiwr, yn gantores-gyfansoddwraig, yn wneuthurwr theatr ac yn ogystal, ond nid yn llai, na hynny, yn fam i Molly ac Alice.

86 views0 comments

Comments


bottom of page