top of page

24:24/3 | Cleopatra / Ignatius Sancho - Melissa Rodrigues

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • Oct 1, 2020
  • 1 min read

Melissa Rodrigues fu'n gyfrifol am drydydd awr 24:24, prosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, gan ddefnyddio 'Trwy lygaid gwydr' gan Gareth Evans-Jones fel man cychwyn. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.

-----

Mae Melissa Rodrigues yn artist celfyddyd gain o Abertawe. Wedi ei geni yn Guinesau Bissau, bu'n byw ym Mhortiwgal o oed ifanc hyd 2016, ac fe'i cyflwynwyd i waith creadigol yn yr ysgol uwchradd. Roedd ei chefndir academaidd mewn meysydd gwyddonol, a'i huchelgais oedd bod yn ymarferydd nyrsio.


Ar ôl tin-droi dros wahanol opsiynau, yn 2016 penderfynodd Rodrigues ddod i astudio celfyddyd gain ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. Graddiodd oddi yno gyda BA ac anrhydedd dosbarth cyntaf yng Ngorffennaf 2019.

Comments

Couldn’t Load Comments
It looks like there was a technical problem. Try reconnecting or refreshing the page.

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page