Y pumed i ymgymryd â her 24:24, prosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, yw Sara Louise Wheeler. Mae ei cherdd a'r delwedd i gyd-fynd yn ymateb i'r artist blaenorol, Dafydd Reeves, ac hefyd i rannau o gyfraniad cyntaf y dydd gan Esyllt Lewis ac Iestyn Tyne. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.
Gweledigaeth trwy sawl llygad
Sbïwn ar yr oes a fu, drwy lygaid tra gwahanol -
mae’r gorffennol yn llawn croesebau a hunllefau;
mae’r dyfodol hefyd, yn dir anwastad ag ansicr.
Oni fydd hi’n well pan fo pawb yn iach ac iawn
ac wedi eu trwsio? Pawb ’run peth a neb yn mwydro
eu bod nhw ar ei hôl hi, hebddi – ac yn methu?
Onid hynny yw’r weledigaeth ddelfrydol? Ac onid
hynny oedd y bwriad, wrth yn dawel ddileu'r rheini
nad oedd yn matchio fyny? Siŵr o fod. Ond ...
Mae’r cloc yn tician a daw'r dyfodol cyn hir
a’i oblygiadau ffiaidd a chas ... i rai ohonom;
ond efallai mai celf yw’r arf gorau sydd gennym –
Paent ar wyneb cloc. Cerdd yn wynebu’r
darllenwr Trydar diniwed. I wthio’r neges
i gorneli’r meddyliau, fel goleuni.
Gofynnaf i chi sbïo drwyddi – y celf hwnnw
a gweld yr artist tu ôl iddo, yn ôl atoch
trwy’r drych, trwy’r ffon symudol.
Dyma oes y weledigaeth. Yr oes i ni sbïo’n
graff ar bwy ydan ni – ar ein gilydd, yr heriau
a’r doniau ... a’r hyn sy’n deillio ohonynt.
Rwy’n dyheu am ddyfodol cydraddol
lle cawn ni gyd gyfrannu a bodoli
heb boeni nag oedi am enynnau.
-----
Mae gan Sara Louise Wheeler Syndrom Waardenburg Math 1, sef cyflwr genetig prin sy'n effeithio ar ymddangosiad corfforol a'r clyw. Mae sara wrthi'n archwilio ei phrofiadau corfforedig, a'r goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a meddygol, trwy nifer o gyfryngau ysgolheigaidd a chreadigol, gan gynnwys barddoniaeth a gwaith celf. Yn wreiddiol o Wrecsam, mae hi bellach wedi ymgartrefu ar benrhyn Cilgwri hefo'i gŵr, Peter, a'i chrwban anwes, Kahless.
Komentar