top of page

24:24/6 | Gwenllian Spink

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • Oct 1, 2020
  • 1 min read

Gyda'n chweched artist, Gwenllian Spink, rydym chwarter y ffordd drwy brosiect creadigol Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru, 24:24. Mae'r darn hwn yn ymateb i'r ddolen flaenorol yn y gadwyn, sef cerdd a delwedd Sara Louise Wheeler, 'Gweledigaeth trwy sawl llygad'. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.


-----

Artist o Gymru yw Gwenllian Spink (@gwenllianspink), ac mae ei gwaith diweddara' wedi'i wreiddio yn y tirlun Cymreig, boed hynny yn gerfluniau safle-benodol neu yn waith sydd wedi ei lywio gan hanes y tirlun. Yn ddiweddar, fe'i comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Stafford (2020), tra'n gynharach yn y flwyddyn mi roedd hi'n artist preswyl efo Kinono Art Gathering yng Ngwlad Groeg (2020). Roedd yn un o'r artistiaid fu'n rhan o brosiect Y Stamp, Reic a Bloomers, Llygaid/Súile/Eyes.

Commentaires


Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page