Wel gyfeillion, os na chawsoch chi gyfle i fachu eich copi caled o rhifyn 10, na phoener- mae nhw dal ar gael o'n siop, ond os ydi'n well ganddo chi ddarllen ar lein, dyma rannu copi digidiol i chi ei fwynhau.
Dyma linc i lawrlwytho y rhifyn diweddaraf:
Yn atododiad i'r rhifyn mae'r ysgrif yma gan Efa Edwards, yn son am ei chyfieithiad o waith Hamad Rind, sydd yn y rhifyn. A dyma recordiad o'r lansiad i'r anffodusion hynny na welodd o'n fyw neu i'r rhai yn eich plith chi sydd am ail-fyw y profiad unwaith eto.
A dyma sgwrs rhwng Esyllt a Georgia Ruth a oedd hefyd yn rhan o'r arlwy.
Commenti