top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Rhifyn: Y STAMP #11 - Gaeaf 2020-21

Wele, rifyn cyflawn olaf Y Stamp yn ei holl ogoniant ar gael i chi ei ddarllen AM DDIM ym mha le bynnag y mynnwch heddiw, fory ac am byth.


Golygyddol


A dyma gyrraedd, felly, hwn – y Stamp olaf. Bendith arno fo, a boed iddo gicio a stampio ei ffordd iʼr byd fel ei ddeg rhagflaenydd.


Daeth yn bryd i griw arall aʼu syniadau roi ysgydwad i sîn sydd angen ysgydwad bob hyn a hyn; ein gobaith yw ein bod ni wedi llwyddo i wneud hynny o bryd iʼw gilydd, gan greu newid er gwell yn ein ffordd fach ein hunain hefyd. Mae gwaith Patriarchaeth, ein holynwyr, yn blaenoriaethu gofal, tegwch a chyfiawnder wrth gyd-sefyll mewn undod â phawb syʼn ymladd dros fyd gwell; yn ymrwymedig i gyd-gyfeirioldeb, traws-gynwysoldeb, diddymiad a gwrth-hiliaeth. Dymaʼr gwerthoedd y dylai pob cyhoeddiad fod yn eu hamddiffyn trwy eu gwaith, ac rydyn niʼn gyffrous iawn i weld gwaith y cyhoeddiad newydd hwn yn dwyn ffrwyth.


Rydym yn byw mewn cyfnod ansefydlog; mae yna ddegawdau sigledig eto i ddod oʼn blaenau, ond mi all gwaith creadigol fod yn wrthgyffur iʼr diymadferthedd syʼn cydio mor hawdd, yn ogystal â bod yn ddull o weithredu yn erbyn llawer oʼr grymoedd tywyll sydd ar waith yn y byd heddiw. Yn wythnosau cyntaf 2021, wrth baratoiʼr rhifyn hwn iʼr wasg, bu farw Mohamud Hassan, gŵr ifanc Du o Gaerdydd, oriau yn unig wedi iddo gael ei arestio aʼi gymryd iʼr ddalfa gan yr heddlu. Maeʼr flwyddyn yn newydd, ond yr un ywʼr hanes; mudandod y cyfryngau, datganiadau gwag yr heddlu, a bywyd Du arall nad oedd, maeʼn debyg, o bwys digonol.


Maeʼr pandemig, aʼr ymateb echrydus iddo, yn rhygnu ymlaen, gan adael teuluoedd ar hyd a lled y wlad a thros y byd mewn galar; gwaethygu eto fyth mae ffawd ffoaduriaid syʼn ceisio cyrraedd yma, ynghyd âʼr bobl dlotaf a bregusaf sydd ymaʼn barod. Ac fel peʼn gefnlen sinistr iʼr cyfan, hawdd ei anghofio rhwng popeth, newid hinsawdd; mae holl ddeunydd a gwead y ddaear syʼn ein cadwʼn fyw ar fin y gyllell. Wrth esgeulusoʼr cread, daw creu yn fwyfwy diystyr.


Mae fellyʼn teimloʼn chwithig, ac etoʼn berffaith naturiol, mai rhyw ddiwedd sydyn fel hyn fydd i gylchgrawn Y Stamp wediʼr cyfan; mi fydd ein creadigaeth yn aros yn fythol ifanc trwy anwybod y dyfodol, wrth i ninnau fynd yn hen a phenwyn a gorfod brwydro yn galetach rhag cael ein llyncu gan y sefydliad y buon niʼn trioʼn gorau i godi braw arno fo.


Ar sail o ewyllys da a chydweithio, o gadwʼn hannibyniaeth a rhoi llwyfan i ystod o safbwyntiau heriol a lleisiau newydd a chyffrous o gefndiroedd amrywiol, y sefydlwyd Y Stamp. Rhyfedd o fyd ywʼr byd lle ystyrir y gwerthoedd hynny yn werthoedd radical; byd lle mae cyd-dynnu, creu er lles creu, a rhannu budd yn gysyniadiau estron; byd mor llwyr yng nghrafangau cyfalafiaeth nes bod creu cyhoeddiad fel hwn yn wirfoddol yn teimlo bron yn amhosib o anghynaladwy ar brydiau.


Ond mae gobaith. Cyhyd ag y bydd rhywun yn rhywle yn rhoi pin ar bapur neu frwsh ar gynfas i roi mynegiant iʼr hyn sydd ar eu meddwl, mae gobaith y gallwn newid y byd.


Ionawr 2021

127 views0 comments

Recent Posts

See All

Kommentare


bottom of page