top of page

Rhifyn: Y STAMP #9 - Gaeaf 2019

  • Golygyddion
  • Jan 14, 2020
  • 1 min read

Be' well ar ddechrau blwyddyn newydd na thamaid bach blasus o'r hen flwyddyn i'w fwynhau o'r newydd?

Yn unol â'r arfer, dyma gyflwyno ein rhifyn diweddaraf, sef Rhifyn Gaeaf 2019, am ddim i bawb o bobl y byd ei lawrlwytho - a hynny am ddim!

Mae'r rhifyn newydd lliwgar hwn yn cynnwys eitemau arbennig o Biennale Celf Fenis 2019, ysgrif ar un o eiconau'r byd celf Cymreig gan Peter Lord, cerdd a darn gweledol o arddangosfa ddiweddaraf Manon Awst, adolygiadau o gyfrolau, dramâu ac arddangosfeydd amrywiol, a'r holl ddeunydd amrywiol arferol rhwng cloriau trawiadol gan Gweni Llwyd.

Cewch hefyd fwynhau atodiad arbennig o gerddi mewn cyfieithiad o'r iaith Malayalam gan Llŷr Gwyn Lewis - Cerddi Kerala.

Gyda hynny o eiriau - setlwch yn ôl a mwynhewch y daith liwgar a'r holl stampwyr disglair welwch chi ar hyd y ffordd!

Cofiwch bod modd i chi hefyd archebu copi print prin o'r rhifyn hwn trwy fynd i'n siop ar-lein: https://www.ystamp.cymru/siop-rhifynnau - neu brynu copi gan un o'n llyfrwerthwyr stampus: https://www.ystamp.cymru/siopau

Recent Posts

See All

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page