top of page

Cerdd: Kalamari - Caryl Bryn

  • Miriam Elin Jones
  • Jan 10, 2017
  • 1 min read

Fin nos fan hyn

Lladdwyd sgwid.

Mae’n debyg yr anghofia’i hyn.

Y môr a welaf fan hyn

A welodd y sgwid.

Nofiodd rhwng y gwymon hyn.

Fin nos, fan hyn

O’r golwg nesâ’i ‘ngenau,

Fe fwytwyd y cyfan fan hyn.

Rwyf fi’n awr fan hyn,

Lle bu’i denticyls ar chop board,

A darnau o’i ben fan hyn.

Fan hyn yw Paxos

Fan hyn sy’n anadl inni,

Fan hyn Dionysus fu’n geni.

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page