top of page

Cerdd: Gwersi Hanes - Iestyn Tyne

  • Writer: Iestyn Tyne
    Iestyn Tyne
  • Jan 31, 2017
  • 1 min read

Ai catalogio yw’n natur ni;

dogfennu popeth yn gymen

cyn ei ddinistrio?

Os yw’r cof yn fyw

cawn ffugio cydwybod a

dysgu am ein hanes

fel na wnaiff ein hanes

ei ailadrodd ei hun…

Mae dweud hynny’n drwydded

i gario ‘mlaen yn ddistaw

dan smalio

ein bod ni’n gwella.

Ac rwy’n poeni

mai lladd yw ein natur ni.

Iestyn Tyne

@iestyn_tyne

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

Donate with PayPal

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean
bottom of page