top of page
Y Stamp

Adolygiad: Pantywennol - Ruth Richards


 minnau wedi edrych ymlaen cymaint at gael sgwennu’r pwt o adolygiad hwn yn ddienw, mae’n rhaid imi gyfaddef y bu imi obeithio fod Pantywennol yn stincar o nofel sâl. ‘Y fath ryddid sydd gennyf!’ meddyliais (gan ddyfynnu’r Parchedig Rhys Lewis). Ond, fe’m siomwyd i ar yr ochr orau.

Dynes yn ei hoed a’i hamser ydi traethydd a phrif gymeriad y nofel, sef Elin a’i galwyd yn Fwgan Pantywennol. Myfyrio y mae hi mewn alltudiaeth ar ei bywyd yn sgil marwolaeth ei chwaer, Catherine (‘Asiffeta’) ac aelod o’r gymdeithas, Mari Ifans Llidiart Gwyn, gan ragweld ei marwolaeth ei hun gan ‘mai teirgwaith ar y tro y gneith angau daro.’ Gweld y cyfle y mae hi i adrodd gwirioneddau hanes Bwgan Pantywennol ar ôl derbyn llythyr cyffes gan hen gyfaill iddi. Rhyw fath o ollyngdod a rhyddhad i’w chydwybod ydi’r adrodd i’r hen ferch, felly.

Peidiwch â 'ngham-ddallt i - mae gan y nofel ei ffaeleddau. Wedi’r cwbl, prin iawn yw’r nofelau perffaith. Fy mhrif gŵyn amdani ydi ein bod ni’n colli un o’r cymeriadau disgleiriaf ar gychwyn y stori, sef Lora, ffrind gorau Asiffeta. Mae portread yr awdures o’u cyfeillgarwch yn second to none fel y dychmygaf y dywedai’r ddwy. ‘Dw i’n dal yn y niwl ynglŷn â beth ddigwyddodd rhwng y ddwy gan rwygo’u cyfeillgarwch am byth. Mi fuasai’r nofel lawer cyfoethocach petai’r awdures wedi penderfynu esbonio’r cweryl i’w darllenwyr rhyw ben. Mi ddois i i licio’r Asiffeta honno a oedd yn rhan o’r ddeuawd snoblyd, ond wedi hynny doedd hi ddim hyd yn oed yn un o’r cymeriadau hynny y mae un yn caru ei chasáu. Do’n i jest ddim yn ei licio hi, a dyna ddiwedd ar y mater.

Ta waeth am Asiffeta, dawn cymeriadu’r awdures ydi trysor y nofel. Wrth gwrs, mae Elin ei hun yn gymeriad direidus, hoffus, ffraeth a chofiadwy a phob dim arall y mae un yn dymuno i’w prif gymeriad delfrydol fod. Braidd yn rhagweladwy ydi’r fam - yn stereoteip ailadroddus o famau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ein llenyddiaeth. Y fam dduwiolfrydig, ofergoelus - yn weddw gref o gorff a ffydd. Er hynny, mae Ruth Richards yn llwyddo i ennyn ein diddordeb. Ond, drwy’r is gymeriadau y gwelwn ei dawn yn sgleinio. Fy hoff gymeriad? Kilsby, yn ddi-ffael. Er mai cameo ydi o, hwn ydi seren y nofel. Gwirionais ar ei ffraethineb a’i frawddeg, “Gwrandewch, bobl annwyl, ni wastiodd neb erioed eiliad yn sgwrsio â’r werin.” Hileriys.

Rŵan am y plot. Mae hi’n un dda. Nid y gorau o blith nofelau efallai, ond yn un da er hynny. ‘Dw i’n teimlo fod yr awdures wedi mynd i hwyl wrth ei chynllunio a'i bod hi wedi bod cyn driwied i’r stori a gadwyd ar lafar gwlad a medra un wrth sgwennu nofel. Mi wnes i ryw fymryn o swotio ar ôl darllen y 123 o dudalennau (ac nid er mwyn yr adolygiad hwn achos nelo’r hanes ddim byd mewn gwirionedd a Pantywennol fel nofel yn ei hawl ei un) gan fy mod i wedi fy swyno gan yr hanes. Yr hyn a gasglais i oedd mai merch yn ei harddegau oedd yn gyfrifol am waith Bwgan Pantywenol yn y gobaith o ddychryn ei mham o’r cartref iddi hi gael y tŷ iddi hi ei hun. Nid dyma’r trywydd â Ruth Richards ar ei ôl, ac a dweud y gwir, mae’n fil gwell gen i fersiwn y nofel hon. Crea’r awdures ddirgelwch gan orfodi’r darllenwyr gwestiynu sawl aelod o gymdeithas ofergoelus Mynytho’r ganrif.

Themâu amlycaf y nofel ydi ofergoelion a chrefydd. Diolchaf nad ydi’r awdures wedi ffantaseisio tlodi’r cyfnod gan fod hynny’n dod â joch o ffresni iddi. Os rhywbeth, mae’r prif gymeriadau’n weddol gyfforddus eu byd. Mae ‘na gyfeirio at ffasiwn y cyfnod yma ac weithiau mi gewch chi’r teimlad fod chwiorydd Pantywennol yn bychanu dillad y difreintiedig yn eu plith. Lora ac Asiffeta sydd yn cynrychioli crandrwydd a moethusrwydd ar ddechrau’r nofel. Wedi i Emaniwel, brawd Elin, wneud ei ffortiwn ar y môr mae Elin ei hun yn ‘spinster of independent means’ ac yn gefnog iawn hyd at ei diwedd. Ond ydi arian yn prynu hapusrwydd? Mi drosglwyddaf y penderfyniad i chi’r Stampwyr.


37 views0 comments
bottom of page