top of page
Y Stamp

Adolygiad: The Overstory - Richard Powers


Y llynedd cyhoeddwyd The Overstory gan Richard Powers, nofel sy’n sôn am goed a pherthynas pobl gyda choed. Enillodd y nofel wobr Pulitzer – sef un o brif wobrau llenyddol America – sy’n ei gosod gyfochr â nofelau nodedig eraill fel Gilead gan Marilyn Robinson (sydd wedi cael sylw gan M. Wynn Thomas yn O’r Pedwar Gwynt), a Beloved gan Toni Morrison, enillydd gwobr llenyddiaeth Nobel ym 1993.

Yn neuddegfed nofel Powers mae’n ymateb i’w dröedigaeth amgylcheddol. Rhythodd gerbron coeden enfawr a sylweddoli nad yw bywyd a bodolaeth yn dechrau nac yn gorffen gyda phobl. Modrwy o gwmpas gweledigaeth y nofel am fywyd yw’r gred fod bywyd yn parhau er gwaethaf pawb a phopeth; i'w roi yn nhermau coedwigaeth, caiff pethau eu plannu, maen nhw’n tyfu ac yn dioddef cyfnodau o gyni ac yn mwynhau cyfnodau o lewyrch, ac yn y pen draw mae pethau’n edwino ac yn dadfeilio. Ond pan ddigwydd hynny mae hadau newydd yn cael eu plannu eto, ac mae’r broses yn ail-gychwyn drosodd a throsodd.

Dyma nofel rymus sy’n mynnu bod pobl yn ddibynnol ar yr amgylchfyd y maent yn cymryd mantais ohono. Rydym yn dilyn hynt a helynt pobl amrywiol o gefndiroedd, hilioedd, a phrofiadau gwahanol, a’r hyn sy’n uno’r holl bobl hyn yw eu cariad a’u parch at y byd o’u cwmpas. Gwahoddir y darllenydd i ymateb a newid eu perthynas â natur. Mae cenhadaeth ddigywilydd yr awdur yn briod â’r plot, ac er y ceir tensiynau yn y briodas honno tua diwedd y nofel, yn sicr, mae’n briodas lawen, gyda’r naill yn cyfrannu rhywbeth na all y llall i’r naratif goeth, gyffrous, a chyfoethog.

Mae’n bosibl darllen y nofel ar garlam; mae hefyd yn bosibl ei ddarllen yn araf a rhyfeddu nid yn unig at y brawddegau a’r darluniau a grëir gan Powers ond hefyd at y byd o’n cwmpas.

Pwysleisia drwy gydol y stori fod coed yn bodoli fel endidau byw a gwerthfawr a’u bod yn cyfathrebu gyda’i gilydd a chyda phobl. Un enghraifft o hyn yw eu galar wrth i goed eraill gael eu dinistrio gan gwmnïau mawrion.

Mae cynnwys, pwnc a themâu’r nofel yn rhai uchelgeisiol tu hwnt gan drafod perthynas pobl â’i gilydd, pobl â byd natur, a hanfod bodolaeth. Prif gamp y nofel yw ei bod yn annog ac yn dwyn pleser, ac nid yw’r plot yn cael ei gaethiwo gan neges yr awdur.

Torrir y nofel yn ddwy ran, â’r cyntaf, ‘Roots’, yn darllen fel wyth stori fer gwahanol am bobloedd gwahanol. Mae’n enw priodol ar adran sy’n gosod y gwreiddiau, fel petai, ar gyfer yr ail ran, a’r prif ergyd yw bod coed llawer yn hŷn nag unrhyw berson.

Yn y stori fer gyntaf, cawn hanes mudwr i America o Norwy, Jørgen Hoel, a blannodd goeden gastanwydden (chestnut) i ddynodi gwreiddiau newydd y teulu mewn gwlad a gaiff ei ystyried fel gwlad yr addewid ar y pryd. Wedi marwolaeth ei dad penderfyna John Hoel, mab y mudwr, dynnu llun o’r goeden yn fisol wrth iddi dyfu. Dyma draddodiad y mae ei blant a phlant ei blant yn ei gynnal, efallai braidd yn anfodlon i ddechrau ond deuant i drysori’r cyswllt byw hwn rhyngddynt hwy, eu hynafiaid a byd natur. Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif hyd dechrau’r unfed ganrif ar hugain mae cannoedd o luniau ganddynt o’r un goeden ddigyfnewid ar gefndir ansefydlog. Dyma, mae’n siŵr, yw adran gyfoethocaf y gyfrol.

Yn yr ail adran plethir pob un o naratifau’r bobl hyn gyda’i gilydd mewn tair pennod o’r enw ‘Trunk’, ‘Crown’, a ‘Seeds’ wrth i'r cymeriadau frwydro er mwyn achub y byd o’u cwmpas. Dyma nofel amserol tu hwnt, ond un a fydd yn goroesi treigl amser.

-----

Cyhoeddir holl adolygiadau cylchgrawn a gwefan Y Stamp yn ddienw. I weld crynodeb o'n polisi adolygu a rhestr gyfredol o'n holl adolygwyr, ewch i https://www.ystamp.cymru/adolygwyr.

58 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page