top of page
Writer's picturegolygyddionystamp

Adolygiad - Salacia, gan Mari Ellis Dunning

Salacia (2018) gan Mari Ellis Dunning, Gwasg: Parthian, Pris: £8

Fel rheol, rwy’n dueddol o ddarllen llenyddiaeth gan fenywod yn unig. Dw i ddim wedi mynd ati i wneud hynny yn fwriadol, ond dyna’r math o ddeunydd sy’n tynnu fy sylw ac yn gafael ynof. Mae parti selsig y byd barddonol yn gallu bod yn drech weithiau oherwydd hyn, felly braf yw cael agor cyfrol gan Gymraes o fardd sy’n gwbl newydd i fi. A hithau wedi ei henwebu am wobr Barddoniaeth Saesneg Llyfr y Flwyddyn eleni, ble gwell i ddechrau na Salacia gan Mari Ellis Dunning?

Corfforol yw’r gair sy’n dod i’r meddwl dro ar ôl tro wrth bori trwy’r cerddi. Mae cyfeiriadau at y corff yn ymddangos drwyddi draw yn y gyfrol, ac yn rhan o hyn mae’u natur fenywaidd ddigamsyniol. Mae poen cyrff benywaidd yn destun i lawer o’r cerddi – does dim byd delfrydol am y delweddau o gyrff benywaidd yn y gyfrol, ac mae hi'n gwyrdroi’r gwryw-wyliadwraeth sy’n hollbresennol fel arall. Adrodda 'Shrinking' hanes Sarah, un o’r ‘fasting girls’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd yn gwrthod bwyta, naill ai am resymau ysbrydol neu o bosib oherwydd anhwylder bwyta. Gwnaiff y bardd hyn trwy ddisgrifiadau corfforol torcalonnus, grotèsg o’i gwddf, ei bol a’i hesgyrn methedig, sy’n gwneud y darllen yn brofiad anghyfforddus ond un sy’n aros yn y cof.

Mae hyd yn oed ei hiraeth am Gymru, wedi iddi dreulio cyfnod oddi yno naill llai’n llythrennol neu’n fwy metaffisegol, yn cael ei gyfleu trwy gyfrwng y corff, gyda’r golled a’r dynfa’n ymddangos ar hyd ei chroen – ‘My body is starved and bruised, blackened/by the loss of my land’. Yr arfordir yw’r llinyn arall sy’n plethu trwy’r gyfrol. Mae’n amlwg bod y môr a thraethau’n dal eu gafael yn nychymyg y bardd, gan fod cyfeiriadau at gregyn a thywod a halen yn frith trwy’r cerddi. Ac yn union fel y mae bod ar lan y môr yn wledd i’r synhwyrau, dyma a gawn yma hefyd – teimlo ‘mosaic’ o gregyn dan draed, blas halen ar wefusau, clywed geiriau fel dŵr y môr ar gerrig... Gorffena’r casgliad gyda dwy gerdd sy’n cydblethu’r ddau linyn annatod o’r corff a’r heli. Y môr sy’n ymbil arni i ddychwelyd i’w mamwlad, i’r fath raddau nes ei fod yn gadael ei ôl ar ei chorff.

Ond i fi, mae’r dweud yn fwyaf effeithiol pan mae’r arddull yn fwy plaen, a di-flewyn ar dafod. Yn enwedig felly pan fo’r dweud plaen yn cyfleu cymhlethdod iechyd meddwl ac iselder trwy gyfrwng rhestr o eitemau diriaethol. Mae ‘Fluoxetine’ yn dechrau gyda’r ddwy linell ergydiol: ‘Each hard capsule contains 20mg of Fluoxetine/in the form of a tentative note on a calendar’. Mae cerddi fel ‘Fluoxetine’ yn torri ar arddull ddisgrifiadol a chyfoethog cerddi eraill y casgliad, gan ein gadael â realiti onest byw gydag iselder yn feunyddiol.

Gallaf ddychmygu bod mwy i’w weld a’i ddarganfod gyda phob darlleniad o’r cerddi hyn, felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at blymio yn ôl i gerddi ysbrydol, cofiadwy Mari Ellis Dunning eto yn y dyfodol, a gweld beth arall sydd ganddi ar y gweill.

Bydd cyfieithiad o un o gerddi Mari Ellis Dunning i'w weld yn rhifyn nesa'r Stamp, allan ym mis Tachwedd.


75 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page