Mae’r nofel Twll Bach yn y Niwl gan Llio Maddocks yn adrodd hanes Lowri, milenial o ogledd
Cymru sy’n trio ymdopi â bywyd yn ei thref fach ar ôl graddio. Dydy Lowri ddim yn joio
bywyd, ond mae’n trio gwneud y gorau o bethe gan dreulio bob nos yn y dafarn gyda’i
ffrindiau a cheisio bachu bechgyn mewn perthnasau. Mae’r nofel yn un ddoniol ac yn weddol
ysgafn i ddechrau; ry’n ni’n uniaethu â Lowri yn syth gan ei bod yn onest ac- dwi’n siwr byse
hi’n cytuno- yn dipyn fach o fés.
Serch hynny, mae’r nofel yn ymdrin a themáu mwy difrifol wrth i’r stori fynd yn ei blaen. Wrth
i ni ddod yn gyfforddus gyda llais Lowri, ry’n ni’n dechrau gweld mwy o’i theimladau yn
dangos trwyddo yn y pethau mae’n gadael allan na'r pethau mae’n dangos i ni. Mae Lowri yn
mynd trwy brofiad erchyll yn ail hanner y nofel, ac mae’r awdur yn llwyddo i wneud i ni
deimlo’n hynod o anghyfforddus heb ddefnyddio’r iaith amlwg ry’n ni’n estyn amdano i
esbonio’r ddigwyddiad. Mae hyn wedyn yn cael ei adlwerychu yn ymateb Lowri a’i
ffrindiau i’r sefyllfa- mae Lowri’n ceisio cuddio’r gwir er mwyn achub ei thawelwch meddwl.
Roeddwn i’n meddwl fod sgiliau cynnil yr awdur yn dangos trwyddo mwy yn y pennod honno
nac mewn unrhyw rhan arall o’r nofel. Mae hi’n llwyddo i wneud pethau erchyll yn normal a
sefyllfaoedd arferol yn ddramatig a doniol, sy’n adlewyrchiad o’r brofiad dryslyd a diddiwedd
o fod yn berson ifanc yn y byd heddiw.
Mae’n rhaid i fi gyfaddau fy mod i wedi cymryd tipyn bach o amser i rili dechrau joio’r nofel. I
ddechrau, teimlais bach yn rhwystredig gyda chymeriad Lowri- roedd hi wastad yn llwyddo
neud y peth rong, gan gladdu ei bedd ei hun wrth fynd. Ond cwpwl o bennodau mewn i’r stori
ffeindiais fy hun yn uniaethu mwy a mwy gyda hi, gan sylweddoli fod y teimlad o
rhwystredigaeth ‘na’n fwy agos at fywyd go iawn nag unrhywbeth arall dwi ‘di ddarllen yn
ddiweddar. Fydd bywyd ddim yn berffaith- dyna beth gofiais i wrth ddarllen. Ond er hyn,
teimlais yn optimistig wrth sylwi bod Lowri, jyst fel pawb arall, yn trio ei gorau gyda phopeth
oedd o’i blaen. Falle bydd hi’n gorwedd yn y gwely am gwpwl o oriau yn gyntaf, ond erbyn
ddiwedd bob dydd mae hi’n ceisio edrych ar ôl ei hunan a’r bobl o’i chwmpas hefyd, sydd
ddim yn hawdd o gwbl.
Nofel andros o realistig yw Twll Bach yn y Niwl- mae’n stori sy’n gwrando arnon ni’n cwyno
ar ôl diwrnod hir, ac yna’n adrodd stori embarrassing i wneud i ni deimlo’n well. Mae’r nofel
yma’n dangos i ni fod bywyd yn ddryslyd ac yn sgêri, ond y bydd popeth yn iawn yn y diwedd-
cyd bod ganddoch chi ffrindiau sy’n barod i dorri trwyn rhywun, neu goginio pasta bake
enfawr, neu brynu peint i chi lawr y local. Mae’n atgoffa ni fod e’n iawn i fod ofn, ac yn annog
ni i gadw’r bobl ni’n eu caru yn glos o’n cwmpas.
Nodir fod y nofel hon yn trafod themau fel trais a salwch hir-dymor, felly hoffwn eich
rhybuddio chi i fod yn ofalus wrth ddarllen os oes angen. (Hefyd, hoffwn nodi fod lot o spew
yn y nofel hon, ond mae’r disgrifiadau o’r bwyd sy’n dod cyn y spew fel arfer yn neud lan
amdano fe.)
Cyhoeddir holl adolygiadau cylchgrawn a gwefan Y Stamp yn ddienw. I weld crynodeb o'n polisi adolygu a rhestr gyfredol o'n holl adolygwyr, ewch i https://www.ystamp.cymru/adolygwyr
Comments