Dyma’r tro cyntaf i Peredur Lynch gyhoeddi cyfrol o’i farddoniaeth, ac felly roeddwn yn falch o’r cyfle i gael ymgolli yn y gyfrol Caeth a Rhydd, sydd yn cwmpasu ei yrfa gyfan, o’i ddechreuadau yn Ysgol y Berwyn, Y Bala, hyd at y presennol.
Egyr y gyfrol â ‘Lloches’, dilyniant o gerddi tyner er cof am dad y bardd, y Parch. Evan Lynch, a dyma’r gwaith sy’n serennu, yn sicr. Mae’r canu yma mor onest a diffuant wrth i’r bardd ddod i dermau â’i golled, nad oes dim arall yn dod yn agos ato. Dyma ddyfynnu o ‘Yr hyn sy’n aros’, ail gerdd y dilyniant:
Yr oedd yma hefyd,
Wrth iddo saernïo ei bregethau,
Ryw flas rhwng surni a melystra
Ar daflod ei fyd.
Ac wrth ddod yn ôl i bacio’i lyfrau,
Ar ôl yr holl flynyddoedd
Yr hyn sy’n aros
Yw sawr orennau.
Yn y cerddi hyn mae gan y bardd fwy na dyletswydd i ganu cerddi coffa. Mae barddoni o’r math yma yn ffordd o ddygymod, yn ffordd o gofio; ac mae manylion i’w cael, fel y sawr orenau, sydd ymhell y tu hwnt i’r hyn a geir yn y cerddi coffa i bobl eraill.
Tydw i ddim o’r ffan mwyaf o gyfeiriadaeth lenyddol, neu yn hytrach, gormod o gyfeiriadaeth lenyddol. I mi, roedd rhywbeth fel hwn yn ormod o bwdin:
Brynhawn dydd Iau protest fawr a fu.
Ymgynullodd myfyrwyr Bangor yn bedwar llu.
Deallaf mai parodïo’r Gododdin yw’r nod yma, ac yn hynny o beth, wrth gofio mai Prifysgol Bangor yn yr wythdegau sydd dan sylw, mae’n llwyddiant, am wn i. Ond oherwydd bod y cyfeirio mor amlwg ac mor fynych, ni allaf benderfynu a yw’r awdur yn ysgrifennu o ddifrif ai peidio, ac mae hynny’n gwneud y mwynhad yn anodd.
Gair am y diwyg: os am gynnwys gwaith celf hefo cerddi, mae’n rhaid i’r gwaith celf hwnnw dalu am ei le (Ceir enghreifftiau da o hyn yng nghyfrolau Iwan Llwyd, ac yng nghyfrol Aneirin Karadog, O Annwn i Geltia, lle mae’r beirdd wedi cydweithio ag artistiaid penodol i greu gwaith yn ymateb yn uniongyrchol i’r cerddi). I mi, nid yw addasiadau cyfrifiadurol digon gwael o ffotograffau wedi eu pastio at ei gilydd hefo ambell linell o farddoniaeth wedi eu taflu i fewn for good measure yn gwneud dim ond amharu ar y pleser o ddarllen. Pe bai mwy o feddwl wedi mynd i hyn, ni fyddai erchyllbethau megis yr hyn sydd ar dudalen 36 Caeth a Rhydd wedi dod i fodolaeth.
Credaf mai’r hyn sydd yn rhaid ei ddeall yn anad dim wrth fynd ati i ddarllen Caeth a Rhydd yw mai cerddi personol iawn, ac o bosib amherthnasol neu anodd eu deall i’n gweddill ni ydyn nhw. Cyfrol y mae rhywun yn rhoi ei big ynddi o dro i dro er mwyn darganfod ambell berl, yn hytrach na’i darllen o glawr i glawr ydyw. Y peth yw, mae’r gerdd ‘I ddathlu pen-blwydd Mair yn 50 oed’, er enghraifft, yn gerdd arbennig iawn i Mair sy’n dal lle anrhydeddus yn ei chalon, ond wyddom ni ddarllenwyr ddim oll am Fair ar wahan i’r pwt o esboniad gan y bardd ar waelod y dudalen, ac felly mae llai o ystyr i’r geiriau.
Afraid dweud fod y gynghanedd a’r mesurau rhydd fel ei gilydd yn llifo’n gadarn o ddechrau hyd ddiwedd y gyfrol, ac nid oes amheuaeth ein bod yng nghwmni bardd cadarn ei fynegiant a gloyw ei syniadaeth. Ond er yr hir ddisgwyl, siom i mi, beth bynnag, oedd y darllen. Ar wahan i’r dilyniant ‘Lloches’ a grybwyllais eisioes, a rhai o’r englynion, prin yw’r cerddi yma sydd yn gyffredinol eu hapêl. Mae rhai o’r lleill yn ddisglair wedyn, ac eraill yn disgyn yn fflat. Rhyw brofiad felly oedd hi.
Mae Peredur Lynch yn cyflawni swyddogaeth y bardd cymdeithasol yn wych, ac mae gen i barch ac edmygedd aruthrol at hynny. Wedi’r cyfan, onid y math yma o ganu cymdeithasol yw un o brif swyddogaethau’r beirdd? Fy mhryder yw mai mewn mannau cyhoeddus ac wedi eu perfformio yw priod le y cerddi hyn, yn hytrach na rhwng cloriau llyfr, lle mae diffyg cyd-destun yn eu maglu.
Carreg Gwalch - £9.00