top of page
Y Stamp

Adolygiad: Jwg ar Seld - Lleucu Roberts


Gallu chamelon-aidd Lleucu Roberts i ymdoddi i bob tafodiaith, gan felly fedru gynrhychioli cymeriadau o Gymru gyfan, sy’n ei gwneud yn awdur arbennig. Y cymeriadu yw cryfder y gyfrol hon, gyda nifer ohonynt yn aros yn y cof, megis Lora, yr uber-bwyllgorwraig sy’n codi pac a mynd yn y stori ‘Lawntie’ a Jessica, glanhawraig y Senedd yng Nghaerdydd a mam gefnogol iawn, yn ‘Yr Eliffant yn y Siambr’.

Heb os ‘Yr Eliffant yn y Siambr’ yw perl y casgliad. Mae’r lanhawraig a’r fam sengl yn wrthgyferbyniad trawiadol i’r siwtiau stiff sy’n malu awyr yn y senedd. Mae’r clash rhwng agweddau’r Dosbarth Canol Cymraeg Cyfforddus (gyda phrif lythrennau hunan-bwysig) ac unigolion dosbarth gweithiol hefyd yn dod i’r amlwg yn ‘Tyrau’, wrth i’r ddau fyd fethu deall agweddau ei gilydd at DJ poblogaidd sy’n rhyfeddol o debyg i Tommo.

Roedd straeon fel ‘Cefnitherod’ dwtsh yn sentimental at fy nant, ac yn delfrydu awydd pawb i ddysgu ac i garu’r Gymraeg. Yn wir, roedd ‘Gwarchodwch y Gymraeg, er mwyn dyn, mae’n iaith i bawb’ yn gic gyson ymhob stori a hynny’n brifo neb ond darllenwyr sydd wedi codi off eu tinau i gefnogi siop Gymraeg a phrynu’r gyfrol... Yn bendant, llesteiriodd yr elfen bregethwrol honno ar y delweddau dychmygus a chymeriadau cryfion.

Y Lolfa - £7.99


14 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page