(o Y STAMP: Rhifyn 1 - Gwanwyn 2017)
Mae hi’n anodd sgwennu llyfr teithio da. Dwi’m yn meddwl fod y genre yn cael y clod mae o’n ei haeddu am ei fod o mor ddiawledig o anodd i’w wneud yn dda. A chware teg, dydi llyfr bach Paris ddim yn gneud job rhy ddrwg ohoni. Rhyw fath o hybrid sydd yma o ganllaw traddodiadol a chofiant, wrth i Lara fynd a ni i rai o’i hoff gaffis ym Mharis a dweud wrtha ni be wnaeth hi a pwy ffwciodd hi yn ble.
Uchafbwynt y gyfrol i mi oedd Cerdd Au Chat Noire. Mi ges i fy siomi ar yr ochor orau efo cerdd Spoken Word gynta Ms Catrin. Hoffais.
Ambell beth nad oedd yn plesio gymaint oedd y ddibyniaeth ar ystrydebau. Gochelwch rhag yr ystrydebau ydi 7 allan o 10 gorchymyn y sgwennwyr teithio. A dwnim ai ymgais i ymddangos yn soffistigedig a chontinental oedd y cyfeiriadau cyson, rheolaidd at ei sex life, ynteu ymdrech i ymddangos yn edgy trwy sgwennu am sex yn Gymraeg, a falle mai fi sy’n prude, ond doedden nhw jest ddim yn talu am ei lle. Mae hi wastad yn anodd i ferched ysgrifennu am ryw. Dim digon o secs, ac mae merch yn hen fursen sych-syber sydd wedi ei gormesu gan foesau Judeo-Gristnogol y batriarchaeth. Gormod o sex a mae hi’n hen hwch fudur. Dwi ddim isho awgrymu nad oes gan Lara Catrin ddim mwy na llai o awchau rhywiol nad sy’n naturiol i ddynes ifanc iach, ond weithiau mae’r cyfeirio parhaus at y cyffro rhwng ei choesa yn, wel, ymylu ar fod yn ddiflas. Ac yn eithaf hen ffasiwn deud y gwir. Ac mi fuasai cael ambell i ffigwr gwrywaidd sydd heb ei objectifyio i ddim mwy na pidlan efo barf yn hyfryd.
Pan mae Lara Catrin ar ei gorau, mae hi wir yn dda iawn. Mae ganddi hi lygad dda i ddal pobol, a mae’r fignets hynny lle mae hi’n diosg yr ystrydebau ac yn sgwennu am be mae hi’n ei weld yn hyfryd. Mae cymeriadau fel Mme Phillipe a’r dyn mewn cordyrois ar y trên yn hollol fyw.
Ac ia. Pwy ddiawl ydi Julia?
Gwasg y Bwthyn - £9.00