top of page
Y Stamp

Adolygiad: Optimist Absoliwt - Menna Elfyn


Nid heb beth petrusder y cychwynais ar ddarllen cofiant newydd Menna Elfyn i Eluned Phillips. Mae pawb wedi clywed y sibrydion – yr honiadau nad oedd hon, enillydd coron dwy Eisteddfod Genedlaethol yn fardd dilys. Dyma gofiant sy’n chwalu’r holl ensyniadau hynny yn deilchion. O’r diwedd, caiff y Prifardd Eluned Phillips ei dangos am bwy oedd hi go iawn – rhywun eithriadol o alluog ac amlochrog a gawsai ei phardduo’n ddidrugaredd gan y sefydliad barddol yng Nghymru. Dyma wraig oedd wedi teithio’r byd, gan edrych tu draw i ffiniau cyfyng ei gwlad am ysbrydoliaeth i’w gwaith, nid yn unig fel bardd, ond fel sgriptwraig a libretydd dawnus.

Gyda thristwch y mae rhywun yn darllen am y croeso cynnes a gawsai draw yng Ngogledd America mewn cyferbyniad â’r wincio a’r pwnio slei tu ôl i’w chefn yma yng Nghymru. Trwy’r cyfan, mae Menna Elfyn yn pwysleisio’r optimistiaeth hwnnw a’i cadwodd i fynd trwy’r drwg a’r da, a’i amharodrwydd i ildio yng ngwyneb popeth. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys y ddwy bryddest eisteddfodol a llyfryddiaeth gynhwysfawr. Dyma waith dadlennol sy’n taro golau newydd ar gymeriad hynod ddifyr na chawsai hanner y sylw a haeddai yn ei hoes ei hun.

Gomer - £12.99


9 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page