top of page
Y Stamp

Adolygiad: Y Gwreiddyn - Caryl Lewis


Yn yr un modd â’i chyfrol gyntaf o straeon byrion, Plu, mae Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis, yn canolbwyntio ar berthynas unigolion â’i gilydd a’r ddealltwriaeth gyfrin sy’n gallu bodoli rhwng rhai. Gwelir perthynas o’r fath drwodd a thro yn y straeon hyn, gyda chymeriadau fel John Erw-las a Ginny Llwyngwyn yn ‘Swper y Llancie’, ac Eunice, y gyn-gantores, a merch fach y ddynes sy’n torri’i gwallt yn ‘Y Parlwr’.

Fel sy’n nodweddiadol o weithiau Caryl Lewis, mae tafodiaith Ceredigion yn britho’r dweud ac yn ategu at y sgwennu sy’n gynnil a hynod deimladwy. Ceir hefyd drafod amrediad o themâu, gan gynnwys trais yn y cartref, unigrwydd, newid mewn cymdeithas, ieuenctid a henaint, a hynny heb bregethu na gor-sentimentaleiddio.

Gellid dweud, efallai, fod byd a chymeriadau’r gyfrol yn eithaf tebyg i rai o weithiau eraill Caryl Lewis. Byddai wedi bod yn ddifyr cael ychydig mwy o straeon yn trafod cymeriadau ‘gwahanol’ yng nghefn gwlad Ceredigion, fel yn ‘Y Llif’ gyda Piotr, y Pwyliad. Wedi dweud hynny, mae elfennau yn Y Gwreiddyn sydd yn sicrhau ei bod yn gyfrol wreiddiol.

Mwynheais y gyfrol yn arw, ac mae sawl stori wedi canu’n hir iawn yn y co’. Mae’n sicr yn werth ei darllen er mwyn cael cip, drwy gyfrwng sgwennu crefftus, ar berthnasau cyfrin sydd fel gwreiddiau arbennig, yn gallu clymu unigolion ynghyd yng nghanol drysi o wreiddiau gwyllt.

Y Lolfa - £7.99


17 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page